Croeso’n ôl / Welcome back

Croeso’n ôl

 

Mae wedi bod yn hyfryd eich croesawu i gyd yn ôl yr wythnos hon.  Mae’r plant wedi bod yn wych ac yn llawn positifrwydd.  Mae ein disgyblion newydd ac iau wedi ymgartrefu’n dda ac eisoes yn rhan annatod o’n teulu yma yn Ysgol Pentrecelyn.

 

Bydd athrawon dosbarth yn anfon taflenni gwybodaeth dosbarth yr wythnos nesaf, bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am waith dosbarth, thema a dysgu adref.  Bydd mwy o wybodaeth ynghyd â dyddiadau allweddol yn cael eu dosbarthu’n fuan unwaith y byddant wedi’u cytuno/trefnu.

 

Bydd ‘Dosbarth Eithin’ yn cael Addysg Gorfforol ar ddydd Llun y tymor yma, felly yn dod i’r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff.

 

Bydd ‘Dosbarth Llywelyn’ (Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2) yn cael Addysg Gorfforol yn wythnosol ar ddydd Mawrth ac maen nhw i ddod â chit ymarfer corff sy’n cynnwys siorts du, crys-t gwyn plaen ac esgidiau addas ar gyfer Addysg Gorfforol mewn bag i gael ei adael yn yr ysgol, yna anfonir hwn adref ar ddiwedd pob hanner tymor i chi ei olchi.

 

Gwener Gwych – Mae wedi bod yn braf gorffen ein hwythnos gyntaf yn ôl gyda Miss Ela Wyn Jones yn arwain ein gweithgareddau dydd Gwener Gwych gyda thaith gerdded a sgwrs yn ein hardal leol.

 

 

Welcome back

 

It has been wonderful to welcome you all back this week.  The children have been fantastic and full of positivity.  Our new and younger pupils  have settled well and are already an integral part of our family here at Ysgol Pentrecelyn.

 

Class teachers will send out class information sheets next week, this will give you valuable information regarding themed class work and home learning.  More information with key dates will be distributed soon once they have been agreed/organised.

 

‘Dosbarth Eithin’  (Years 3, 4, 5 and 6) will have PE on a Monday this term, therefore are to come to school in their PE kit.

 

‘Dosbarth Llywelyn’ (Nursery, Reception, Years 1 & 2) will have PE weekly on a Tuesday and are to bring a PE kit which consists of black cycling shorts, a plain white t-shirt and shoes suitable for PE in a bag to be left in school, this is then sent home at the end of each half-term for you to wash.

 

Fantastic Friday – It has been great to finish our first week back with Miss Ela Wyn Jones leading our Fantastic Friday activities with a walk and talk in our local area.

 

[email protected]” naturalheight=”629″ naturalwidth=”960″ size=”206239″ id=”img423946″ style=”max-width: 99.9%; user-select: none;” tabindex=”0″ src=”https://ysgolpentrecelyn.cymru/wp-content/uploads/2024/09/Taith-cerdded-6Medi24.jpg”>

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288