Gwasanaeth Nadolig – Christmas Service

Amser

Gofynnwn yn garedig i chi ddod a’r plant i neuadd bentref Llanelidan, sydd drws nesaf i’r eglwys, erbyn 5.30pm nos fory. Mi fydd y gwasanaeth yn cychwyn am 6pm.

Gwisgoedd

Mi fydd disgyblion dosbarth Llywelyn a’r Cylch Meithrin yn dod a’u gwisgoedd adref gyda nhw o’r ysgol pnawn Iau. Plis wnewch chi wisgo eich plentyn cyn dod a nhw a sicrhau bod ganddynt ddillad cynnes o dan eu gwisg gan fod yr Eglwys yn oer. Mi fyddwn yn rhoi penwisg iddynt yn y neuadd. Disgyblion dosbarth Eithin i wisgo dillad cynnes a siwmper Nadolig os gwelwch yn dda.

Casgliad

Mi fydd unrhyw roddion a dderbynnir ar y noson yn cael eu rhannu rhwng Eglwys Llanelidan a Chronfa Nyrsys Cymunedol Rhyl a fuodd yn gofalu am Mrs Perrin yn ystod ei gwaeledd.

Cofiwch

Cofiwch wisgo’n gynnes i ddod i’r eglwys ac os ydi o’n  bosib, ceisio cael y  plant i’w gwlau yn gynnar heno gan fod hi’n dod i ddiwedd tymor hir a chyffrous a mae golwg digon blinedig arnynt erbyn hyn! 

Rydym i gyd fel staff a disgyblion yn edrych ymlaen i’ch gweld chi gyd nos Iau.

Diolch yn fawr.

Time

We kindly ask you to bring the children to Llanelidan village hall, which is next door to the church, by 5.30pm tomorrow night. The service will start at 6pm.

Costumes

Pupils from Llywelyn class and the Cylch Meithrin will bring their costumes home with them from school on Thursday afternoon. Please dress your child in their costume before bringing them and make sure they have warm clothes underneath as the Church is cold. We will put their head-dresses on in the hall. Eithin class pupils to wear warm clothes and a Christmas Jumper please.

Collection

Any donations received on the night will be shared between Llanelidan Church and the Rhyl Community Nurses Fund who looked after Mrs Perrin during her illness.

Remember

Remember to dress warmly to come to church and if at all possible, ensure that the children have an early night tonight as it is coming to the end of a busy and exciting term and they are starting to look pretty tired by now!

We look forward to seeing you all on Thursday night.

Thank you.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288