Annwyl Rieni,
Hoffem eich hysbysu ein bod yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o salwch tymhorol ymhlith disgyblion a staff yr ysgol ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth o heintiau feirysol, gan gynnwys annwyd, dolur gwddf, peswch, symptomau tebyg i’r ffliw a bygiau stumog, wedi effeithio ar nifer o aelodau ein cymuned ysgol.
Yn anffodus, mae hyn yn gyffredin ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac mae ysgolion a chymunedau ledled yr ardal leol yn adrodd am batrymau tebyg o salwch. Er bod y rhan fwyaf o’r achosion yn gymharol ysgafn, gall heintiau o’r fath ledaenu’n gyflym mewn amgylchedd prysur fel ysgol.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth wrth helpu i leihau lledaeniad salwch drwy:
- Gadw eich plentyn gartref os yw’n sâl, yn enwedig os oes ganddo/ganddi dymheredd uchel, chwydu, dolur rhydd neu os nad yw’n ddigon da i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol.
- Annog golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr gyda sebon a dŵr.
- Atgoffa plant i orchuddio peswch a thisian gyda hances bapur a’i gwaredu’n syth wedyn.
- Defnyddio hylif diheintio dwylo lle bo hynny’n briodol.
- Osgoi rhannu poteli diod, bwyd neu eitemau personol.
- Sicrhau bod plant yn cael digon o orffwys, hylifau a deiet cytbwys er mwyn cynorthwyo eu hadferiad.
Os yw eich plentyn wedi bod yn taflu fyny neu wedi dioddef dolur rhydd, gofynnwn yn garedig iddo/iddi aros gartref am 48 awr ar ôl y bennod olaf o salwch cyn dychwelyd i’r ysgol.
Mae iechyd a lles ein disgyblion a’n staff yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn parhau i hyrwyddo arferion hylendid da yn yr ysgol ac yn monitro lefelau salwch ac absenoldeb yn ofalus.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth barhaus. Trwy gydweithio, gallwn helpu i leihau lledaeniad heintiau a chadw ein cymuned ysgol mor iach â phosibl yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn.
Dear Parents,
We would like to make you aware that we are currently experiencing a significant increase in seasonal illnesses across the school. A number of pupils and staff have been affected by a range of viral infections, including colds, sore throats, coughs, flu-like symptoms and stomach bugs.
Unfortunately, this is a common occurrence at this time of year and many schools and communities across the local area are reporting similar patterns of illness. While most cases are mild, these infections can spread quickly in a busy school environment.
We would be grateful for your support in helping to minimise the spread of illness by:
- Keeping your child at home if they are unwell, particularly if they have a fever, vomiting, diarrhoea or are not well enough to participate fully in school activities.
- Encouraging regular and thorough hand washing with soap and water.
- Reminding children to cover coughs and sneezes with a tissue and dispose of it immediately (“Catch it, Bin it, Kill it”).
- Using hand sanitiser where appropriate.
- Avoiding sharing drinks bottles, food or personal items.
- Ensuring children get plenty of rest, fluids and a healthy diet to support their recovery.
If your child has experienced vomiting or diarrhoea, please ensure they remain away from school for 48 hours after their last episode before returning.
The health and wellbeing of our pupils and staff remains our priority. We will continue to promote good hygiene practices throughout the school and monitor attendance and illness levels closely.
Thank you for your continued support and cooperation. By working together, we can help reduce the spread of infection and keep our school community as healthy as possible during the winter months.
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288
Dilynwch ni ar Facebook: www.facebook.com/cyngorsirddinbych/
Am y newyddion diweddaraf gan y Cyngor ewch i countyvoice.denbighshire.gov.uk/cymraeg
Ymwelwch a ni ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk
Follow us on Facebook:
www.facebook.com/denbighshirecountycouncil
For the latest news from the Council go to
countyvoice.denbighshire.gov.uk/english
Visit us online at
www.denbighshire.gov.uk/
Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag o
wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, hysbyswch yr
anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda. Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod ac nid yw o
angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych
ddatgelu’r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau deddfwriaethol.
The information contained in this e-mail message and any files transmitted with it is
intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please
notify the sender immediately. The contents of this e-mail represents the views of the individual(s) named above and do
not necessarily represent the views of Denbighshire County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may be required
to disclose this e-mail [or any response to it] under legislative provisions.




