Ffrwyth, llaeth, cinio – Fruit, milk and dinner

Ffrwythau a Llaeth 

Cofiwch fod ffrwythau a llaeth yn cael ei ddarparu i holl blant Ysgol Pentrecelyn. Mae taliad o £1.50 ar ParentPay am ffrwythau, a gofynnwn yn garedig i chi wirio ParentPay yn rheolaidd am unrhyw daliadau sy’n ddyledus.
Yr wyf yn siŵr y cytunwch â mi fod mwynhau Ffrwythau a Llaeth gyda’n gilydd yn y bore yn rhan bwysig o’u diwrnod.
Cinio ysgol 
Rydym mor falch o weld sut mae plant codi’n dair, plant meithrin a phlant y Cylch yn mwynhau eu cinio ysgol.  Rydym yn ffodus iawn bod Anti Eirian yn gallu darparu cinio mor hyfryd ac ein bod yn gallu cynnig hwn i’n disgyblion iau.  Ein nod yw i bob plentyn gael pryd o fwyd canol dydd cynnes iach. Cofiwch i unrhyw blentyn nad yw’n barod am ginio ysgol eto ac sy’n cael pecyn cinio mae staff yr ysgol yn fwy na pharod i weithio gyda chi.
Rydym wedi cofrestru eto eleni i gymryd rhan yn y rhaglen Bwytewch-y-Llysiau-i’w-Llethu 2025, mae manylion y cynllun ynghlwm.

Fruit and Milk 

Please remember fruit and milk is provided for all children at Ysgol Pentrecelyn. There is a payment of £1.50 on ParentPay for fruit, and we ask kindly that you check ParentPay regularly for any payments that are due.

I am sure that you will agree with me that enjoying Fruit and Milk together in the morning is an important part of their day.

School dinner 

We are so proud to see how our rising 3’s children, meithrin children and Cylch children enjoy their school dinner.  We are very fortunate that Anti Eirian is able to provide such a lovely lunch and that we are able to offer this to our younger pupils.  Our aim is for all children to have a healthy warm mid day meal. Remember for any child who is not ready for school dinner yet and has a packed lunch the school staff are more than happy to work with you.

We have registered again this year to take part in the award winning programme of Eat-them-to-defeat-them 2025, details of the scheme are attached.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288