Santes Dwynwen / St Dwynwen’s Day

Mae’n ddiwrnod Santes Dwynwen ar ddydd Sadwrn, Ionawr 25ain a dyma fydd ein thema ar ddydd Gwener y 24/1/2025 a byddwn yn dathlu ein nawddsant cariadon Cymru yn ystod Dydd Gwener Gwych.
Mae Anti Eirian wedi trefnu cinio thema a gall plant ddod i’r ysgol mewn gwisg coch, gwyn, gwyrdd neu binc a byddwn yn mwynhau disgo cerddoriaeth Gymraeg a gweithgareddau hwyliog eraill drwy’r dydd.
Byddwn hefyd yn defnyddio dydd Gwener yma fel diwrnod i gefnogi Dydd Cariad@Urdd i gefnogi pwyllgor lleol yr Urdd. Gall disgyblion ddod a £1 i wisgo eu dillad eu hunain ar y diwrnod. Bydd yr elw yn mynd i bwyllgor lleol yr Urdd i helpu i dalu costau cynnal yr Eisteddfod Gylch a Chylch sydd i ddod yn Rhuthun a Sir Ddinbych. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth ddisgwyliedig.

💖💖💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖❤💖

It is St Dwynwen day on Saturday, January 25th and this will be our theme on Friday 24/1/2025 and we will be celebrating our Welsh patron saint of love during Fantastic Friday.


Anti Eirian has arranged a themed lunch and children can come to school dress in red, white, green or pink and we will enjoy a Welsh music disco and other fun activities throughout the day.


We will also be utilising this Friday as a day to support Dydd Cariad@Urdd to support the local Urdd committee. Pupils may bring in a donation of £1 to wear their own clothes on the day. The proceeds will go to the local Urdd committee to assist to cover costs of holding the forthcoming local and area Eisteddfod in Ruthin and Denbighshire. Many thanks for your anticipated support. 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288