Gwybodaeth – Information

Annwyl rieni

Efallai eich bod yn ymwybodol o’r posteri atodedig sydd wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi fel teulu wedi penderfynu cefnogi’r mater hwn ac yn dymuno i’ch plentyn ddangos eu cefnogaeth drwy wisgo eu hesgidiau glaw i’r ysgol gofynnwn yn garedig i chi hefyd sicrhau bod eu hesgidiau ysgol arferol gyda nhw mewn bag.

Gall y plant gyda eu hesgidiau glaw eisoes yn yr ysgol ddewis eu gwisgo yn ystod y dydd.

Cofiwch gadw llygad ar ap yr ysgol a grŵp WhatsApp PTFA am ddiweddariadau o ran trefniadau bore fory gan ein bod yn ymwybodol bod nifer o staff yn byw ymhell o’r ysgol ac mae eu diogelwch hwy a’n plant yn hollbwysig os yw’r tywydd yn aeafol.

Os nad oes gan eich plentyn esgidiau glaw yn yr ysgol yn barod ar gyfer ein holl weithgareddau awyr agored ac ysgol goedwig yna plis danfonwch nhw mewn bag yfory.

Dear parents

You may be aware of the attached posters that have appeared on social media.

If you as a family have decided to support this issue and would like your child to show their support by wearing their wellies to school we ask kindly that you also ensure that they have their usual school shoes with them in a bag.  

The children whose wellies are already in school can choose to the wear them during the day. 


Please can you keep an eye on the school app and the PTFA WhatsApp group for updates with regards to arrangements tomorrow morning as we are mindful that a number of staff live a distance from school and their and our children’s safety is paramount if the weather conditions are wintery.


If your child hasn’t got wellies already in school for all our outdoor activities and forest school then please send them in a bag tomorrow.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288