Diolch
Diolch i bawb a fynychodd yr ysgol yn ddiweddar ar gyfer ein Bore Balch, Nosweithiau Rhieni, a’r Eisteddfod. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r cyfle i ymgysylltu ac i weld cynnydd ein disgyblion ar draws amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm a pherfformiadau.
Newyddion Staffio
Rydym yn falch iawn o groesawu Mr Richard Pleavin yn ôl i’r ysgol. Diolch o galon i Noleen Kewley, Anti Glenda, ac Anti Jemma am eu cefnogaeth imi yn ystod ei absenoldeb.
Mae gennym hefyd newyddion hyfryd i’w rhannu: mae Miss Alaw Llywelyn yn disgwyl ei hail blentyn ym mis Awst. Dymunwn yn dda iddi. Bydd y Corff Llywodraethu yn hysbysebu’n fuan ar gyfer athro/athrawes i gwmpasu absenoldeb mamolaeth Dosbarth Llywelyn o fis Medi, er mwyn parhau â’r ddarpariaeth a’r gofal arbennig.
Etholiad Mai 7fed
Rydym yn falch iawn y bydd Dosbarth Eithin yn gwasanaethu fel canolfan bleidleisio i’r gymuned ddydd Iau nesaf ar gyfer etholiadau’r Senedd. Bydd hyn hefyd yn gyfle gwerthfawr i’n disgyblion ddysgu am bleidleisio a democratiaeth o oedran cynnar.
Cau Ffordd
Sylwch y bydd y ffordd heibio’r ysgol ar gau rhwng dydd Llun 11 Mai a dydd Mercher 13 Mai tra bo gwaith moderneiddio ar y waliau o gwmpas yn cael ei wneud.
- Oriau cau: 9:30am – 2:30pm
- Bydd mynediad ar gael ar gyfer gollwng a chasglu hanfodol yn unig yn ystod yr amseroedd hyn.
Diolch am eich amynedd a’ch cydweithrediad.
Llangrannog
Mae ein disgyblion hyn yn edrych ymlaen yn fawr at eu trip wythnos nesaf! Bydd Blwyddyn 5 a 6 yn ymuno â disgyblion eraill o’r clwstwr yn Canolfan yr Urdd, Llangrannog.
Diolch mawr i Mrs Ela Hughes am ofalu amdanynt — ac mae’n debygol y bydd hi’n mwynhau’r profiad bron cymaint â’r plant!
Thank You
Thank you to everyone who has attended school recently during our Bore Balch, Parents’ Evenings, and the Eisteddfod. We hope you enjoyed the opportunity to engage with us and to see the progress of all our pupils across a wide range of curriculum areas and performances.
Staffing Updates
We are pleased to welcome Mr Richard Pleavin back to school. A heartfelt thank‑you to Noleen Kewley, Anti Glenda, and Anti Jemma who have supported me during his absence.
We are also pleased to share some lovely news: Miss Alaw Llywelyn is expecting her second child in August. We wish her all the very best now. The Governing Body will soon be advertising for a maternity‑cover teacher for Dosbarth Llywelyn, starting in September, to continue with the excellent provision and care.
May 7th Election
We are proud that Dosbarth Eithin will serve as a community voting area for the Welsh Senedd elections next Thursday. This also provides a valuable opportunity for our pupils to learn about voting and democracy from an early age.
Road Closure Notice
Please be aware that the road passing the school will be closed from Monday 11th May to Wednesday 13th May while the perimeter walls are modernised.
- Closure times: 9:30am – 2:30pm
- Access for essential school drop‑offs and pick‑ups will be available during these times.
Thank you for your patience and cooperation.
Llangrannog Residential
Our older pupils are very excited for their upcoming trip! Years 5 and 6 will be joining other pupils from the cluster at the Urdd Centre in Llangrannog next week.
A big diolch to Mrs Ela Hughes for accompanying the group — and she may well enjoy the experience even more than the children!
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288
Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/cyngorsirddinbych/
Am y newyddion diweddaraf gan y Cyngor ewch i https://countyvoice.denbighshire.gov.uk/cymraeg
Ymwelwch a ni ar-lein ar https://www.sirddinbych.gov.uk
Follow us on Facebook: https://www.facebook.com/denbighshirecountycouncil
For the latest news from the Council go to https://countyvoice.denbighshire.gov.uk/english
Visit us online at https://www.denbighshire.gov.uk/
Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda. Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych ddatgelu’r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau deddfwriaethol.
The information contained in this e-mail message and any files transmitted with it is intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the sender immediately. The contents of this e-mail represents the views of the individual(s) named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may be required to disclose this e-mail [or any response to it] under legislative provisions.




