Cydymdeimladau / Condolences

Gyda thristwch y rhannwn y newyddion fod Mrs Eleri Perrin wedi marw ar ôl salwch a oedd hi wedi brwydro yn ddewr.  Rydym yn gwybod y byddwch yn rhannu ein cydymdeimlad diffuant â Cholin ei gŵr, Nesta ei chwaer a’u teulu oll yn y cyfnod anodd hwn.  

Cyn iddi ymddeol ym mis Mai 2021 roedd Mrs Perrin yn athrawes yn y cyfnod sylfaen yma yn Ysgol Pentrecelyn ac rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno ei bod, yn ei ugain mlynedd a mwy yma yn dysgu, roedd wedi creu atgofion gydol oes i bawb a fu’n ffodus i fod wedi cyfarfod, gweithio a chael eu haddysgu ganddi.  

Bydd gennym focs yn y cyntedd lle gallwch adael negeseuon o gydymdeimlad os dymunwch.  Cynhelir y gwasanaethau angladdol yng Nghapel Stryd Clwyd, Y Rhyl ar ddydd Llun yr 11eg o Dachwedd am 1:00 o’r gloch ac yna ym Mynwent y Dref.  Nid yw’r teulu wedi gofyn am unrhyw flodau, ond bydd casgliad er cof am Mrs Perrin tuag at Nyrsys Ardal y Rhyl.


It is with sadness that we share the news that Mrs Eleri Perrin has passed away after an illness that she bravely fought.  We know that you will share our sincere condolences with Colin her husband, Nesta her sister and all their families in this difficult time.  

Mrs Perrin worked as a Foundation Phase teacher here at Ysgol Pentrecelyn until her retirement in May 2021 and I’m sure you will all agree that, in her twenty plus years teaching here, she has created lifelong memories for everyone who was lucky enough to have met, worked and been taught by her.

We will have a box in the porch area where you can leave messages of condolence if you wish.  The funeral services will be held at Clwyd Street Chapel, Rhyl on Monday the 11th November at 1:00pm followed by internment at the Town Cemetery.  The family have requested no flowers however donations can be made in lieu kindly accepted towards Rhyl District Nurses.

Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288