Diolch yn Fawr a Diweddariad Staffio / Big Thanks and Staffing Update

Diolch yn Fawr a Diweddariad Staffio / Big Thanks and Staffing Update

 

Diolch yn Fawr

Hoffwn estyn diolch enfawr i bawb sydd wedi helpu gyda’r nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u cynnal yn ddiweddar, o’r Sioe Amaethyddol i’r Mabolgampau, teithiau ysgol, a’r gwaith o sicrhau bod ein disgyblion yn ddiogel yn ystod y tywydd poeth.

 

Fel y gwyddoch, rydym yn dîm bach o staff sy’n cyflawni nifer o rolau, gyda chefnogaeth ein Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau (CRhACh), y Cylch a’r aelodau pwyllgor gweithgar, sy’n gweithio’n hynod o galed ac yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod disgyblion Ysgol Pentrecelyn yn cael mwynhau’r profiadau gwerthfawr hyn.

 

Yn bwysig iawn, mae’r disgyblion eu hunain yn chwarae rhan allweddol wrth drefnu llawer o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hyn. Mae hyn yn sgil bywyd amhrisiadwy ac yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn o’i ddatblygu ymhlith ein dysgwyr.

 

Mae’r aelodau staff ymroddedig hyn hefyd yn gofalu am eich plant drwy ein darpariaeth gofal cofleidiol yma yn Ysgol Pentrecelyn. Mae eu hymrwymiad a’u gwaith caled yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

 

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cefnogaeth barhaus.

 

Cofiwch mai ein digwyddiad nesaf a’n digwyddiad olaf o’r flwyddyn academaidd fydd ein Te Prynhawn ddydd Mercher, 15 Gorffennaf. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn fuan.


 

Diweddariad Staffio

Rydym yn falch iawn o rannu bod y Corff Llywodraethu wedi penodi Miss Lois Roberts yn Athrawes Cyflenwi Mamolaeth ar gyfer Dosbarth Llywelyn.

 

Rydym yn falch iawn o groesawu Miss Roberts i dîm Ysgol Pentrecelyn ac yn edrych ymlaen at iddi ddechrau gweithio gyda disgyblion Dosbarth Llywelyn. Yn ystod y broses recriwtio, gwnaeth yr ymgeiswyr a fu’n addysgu’r dosbarth sylwadau cadarnhaol am yr amgylchedd dysgu rhagorol, y safonau uchel, y disgwyliadau cryf sydd eisoes wedi’u sefydlu, a pha mor hapus, gwrtais ac awyddus i ddysgu oedd ein disgyblion. Rydym yn hyderus y bydd Miss Roberts yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn parhau â’r gwaith rhagorol sy’n digwydd o fewn y dosbarth.

Edrychwn ymlaen at groesawu Miss Roberts i gymuned yr ysgol a dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd.

 

Hoffem hefyd ddymuno’n dda i Miss Llywelyn yn ystod ei chyfnod mamolaeth, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â’r aelod newydd o’r teulu yn fuan.


 

Big Thank You

I would like to extend a huge thank you to everyone who has helped with the many events and activities that have taken place recently, from the Agricultural Show, the the Mabolgampau., school trips and keeping our pupils safe, cool and hydrated during the how weather.

 

As you know, we are a small team of staff with many roles, supported by our hardworking PTFA, Cylch and committee members, who work incredibly hard and go above and beyond to ensure that the pupils of Ysgol Pentrecelyn enjoy these valuable experiences.

 

Importantly, the pupils themselves play a significant role in organising many of these events and activities. This is an invaluable life skill and something we are very proud to develop in our learners.

 

These same dedicated staff members also care for your children through our wraparound care provision here at Ysgol Pentrecelyn. Their commitment and hard work are greatly appreciated.

 

Thank you very much to everyone for your continued support.

 

Please remember that our next and final event of the academic year will be our Afternoon Tea on Wednesday, 15 July. Further details will follow shortly.

 


Staffing Update

We are delighted to share that the Governing Body has appointed Miss Lois Roberts as the Maternity Cover Teacher for Dosbarth Llywelyn.

 

We are very pleased to welcome Miss Roberts to the Ysgol Pentrecelyn team and are excited for her to begin working with the pupils of Dosbarth Llywelyn. During the recruitment process, prospective candidates who taught in the class commented positively on the excellent learning environment, high standards, the strong expectations already established and how happy, well behaved and willing to learn our pupils were. We are confident that Miss Roberts will build on this success and continue the excellent work taking place within the class.

 

We look forward to welcoming Miss Roberts to our school community and wish her every success in her new role.

 

We also wish Miss Llywelyn well during her maternity period and look forward to meeting the new addition to the family soon.

 

Andrew Evans

Headteacher


 

Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/cyngorsirddinbych/
Am y newyddion diweddaraf gan y Cyngor ewch i https://countyvoice.denbighshire.gov.uk/cymraeg
Ymwelwch a ni ar-lein ar https://www.sirddinbych.gov.uk

Follow us on Facebook: https://www.facebook.com/denbighshirecountycouncil
For the latest news from the Council go to https://countyvoice.denbighshire.gov.uk/english
Visit us online at https://www.denbighshire.gov.uk/

Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda. Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych ddatgelu’r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau deddfwriaethol.
The information contained in this e-mail message and any files transmitted with it is intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the sender immediately. The contents of this e-mail represents the views of the individual(s) named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may be required to disclose this e-mail [or any response to it] under legislative provisions.