Gwybodaeth / Information

Byddwn yn cynnal ein Bore coffi Macmillan a Bore agored y Cylch Meithrin yma yn yr ysgol dydd Gwener, Medi 29ain o 9:45yb – 11yb.  Mae croeso cynnes i bawb ymuno.  Gofynnwn yn garedig am gyfraniadau o gacennau ayb i’w defnyddio a gwerthu ar y dydd.

We will be hosting our annual  Macmillan Coffee Morning and Cylch Meithrin open event on Friday 29th September between 9:45am and 11am.  There is a warm welcome to all to attend.  We ask kindly for donations of cakes etc for us to use and sell on the day.

CRhFfaA/Llywodraethwyr

Yn anffodus mae Ysgol Brynhyfryd wedi newid dyddiad y noson agored i Flwyddyn 6 unwaith eto! Felly, er mwyn cefnogi ein disgyblion a’i teuluoedd fydd yn mynychu’r noson agored rydym wedi gorfod newid dyddiad cyfarfod y Gymdeithas Rhieni, Ffrindiau ac Athrawon yn ôl i’r 5ed o Hydref am 5:30yp.  Mi fydd hwn yn gyfarfod pwysig i bawb cychwyn paratoi trefniadau at ein dathliadau at ben blwydd yr ysgol yn 150 mis Mai 2024.

PTFA/Governors

Unfortunately Brynhyfryd have once again changed the date for the Year 6 Open evening and in order to support our year 6 pupils and their families we have had to change the date of the PTFA meeting to the original date of the 5th October at 5:30pm.  This is an important meeting where we will be discussing and starting to plan events for the year and especially the Schools 150th Birthday celebrations.


Dosbarth Eithin 


Mi fydd disgyblion dosbarth Eithin yn ymweld â Wrecsam dydd Llun y 9fed o Hydref fel rhan o’i thema ‘Enwogion o fri’ – diolch i Ioan am gysylltu gyda chlwb pêl-droed Wrecsam. Byddwn yn ymweld â’r amgueddfa a Techniquest hefyd – mwy o fanylion i ddilyn. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £7.50 tuag at gost y trip sydd yn ymddangos ar ParentPay.

Dosbarth Eithin will be visiting Wrexham on Monday the 9th October as part of their class theme this term ‘Famous People’ – Thank you Ioan for contacting Wrexham AFC. We will also be visiting the museum and Techniquest – more details to follow.  We ask kindly for a donation of £7.50 towards the cost of the trip on ParentPay.

Dosbarth Llywelyn – 

Mi fydd dosbarth Llywelyn yn ymweld â llyfrgell Rhuthun a pharc Rhuthun Dydd Mawrth 10fed o Hydref fel rhan o’i thema dosbarth ‘Ble yn y byd’. Bydd plant dosbarth derbyn, blwyddyn 1  a 2  hefyd yn ymuno ac ysgolion cynradd eraill ein hardal yn Jambori bydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Brynhyfryd ar 23ain o Hydref.

Dosbarth Llywelyn will be visiting Ruthin Library and the parc on Tuesday October 10th as part of their class focus.

Dosbarth Derbyn, year 1 and 2  will also be joining others in the Jambori in Ysgol Brynhyfryd on the 23 rd of October. 

​Mae Tîm Brechu Ffliw yn ymuno a’r Ysgol dydd Mawrth 24ain Hydref, rydym wedi danfon e-bost gyda manylion a linc i chi ddefnyddio er mwyn cofrestru .

​The Flu Immunisation team will be visiting school on Tuesday the 24th October, we have sent you an email to the parents of pupils Reception to Year 6 with information and a link to register.

Mae Gwasanaeth Diolchgarwch yr ysgol yng Nghapel Bethel Pentrecelyn am 1:30yp 25ain o Hydref.​

Harvest Thanks Giving Service will be held at Capel Bethel Pentrecelyn, 25th October at 1:30pm.

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288