Gwybodaeth am Daliadau Prydau and Ddim / Free School Meal Payment Information

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gofyn i ni rannu’r neges isod gyda rhieni.
Denbighshire County Council have asked us to share the below message with parents. 




Gwybodaeth am Daliadau Prydau Ysgol Am Ddim i rieni a gwarcheidwaid

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru’n parhau i ddarparu cyllid ar gyfer taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynnwys yn ystod gwyliau ysgol, mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.

Mae’r Cyngor wedi gwneud trefniadau i’r taliadau hyn gael eu gwneud ar gyfer gwyliau’r Nadolig (26 Rhagfyr – 6 Ionawr), a byddwn yn prosesu’r taliadau hyn ar ddydd Gwener, 23 Rhagfyr.

Mae rhieni / gwarcheidwaid wedi cael gwybod bod taliadau’n cael eu gwneud yn seiliedig ar gymhwysedd am Brydau Ysgol Am Ddim.

Mae hyn yn gwbl ar wahân i gyflwyniad Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd, sydd wedi darparu prydau ysgol am ddim i blant oed Derbyn y tymor ysgol hwn, a bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i ddisgyblion Blwyddyn 1 ym mis Ionawr 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd:

“Rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan y bydd yn cynnig sicrwydd i rai teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae arnom ni eisiau sicrhau bod plant yn derbyn pryd go iawn a bydd y taliad hwn a gaiff ei wneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni cymwys yn helpu gyda’r costau hyn.”

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/grantiau-ac-ariannu/cinio-ysgol-am-ddim.aspx

Free School Meal Payments information for parents and guardians

Denbighshire County Council has welcomed news that the Welsh Government are continuing to make funding available to make free school meal payments for eligible pupils during school holidays, in response to the cost of living crisis.

The Council have made arrangements for these payments to be made for the forthcoming Christmas holidays (26th December to 6th January), with the payment due to be made on Friday 23rd December.

Parents / guardians are being informed that the payments will be made based on eligibility for Free School Meals.

This is completely separate to the roll out of Universal Primary Free School Meals which has seen Reception age children being able to access free meals this school term and will be extended to Year 1 pupils in January 2023.

Councillor Gill German, Cabinet Lead Member for Education, Children and Families, said:

“We welcome this funding as it will provide reassurance to some families, given the cost-of-living crisis. We want to make sure all children receive a proper meal and this payment, made directly into bank accounts of eligible parents automatically, will help with this cost.”

For more information go to: https://www.denbighshire.gov.uk/en/education-and-schools/grants-and-funding/free-school-meals.aspx