Diolch – Sioe Anhygoel – Thanks – Amazing Show

Rwy’n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i ddweud bod ‘Sioe Amaethyddol’ gyntaf Ysgol Pentrecelyn ar gae’r ysgol ddydd Sadwrn yn ddigwyddiad i’w gofio. Roedd mor hyfryd gweld ein holl deuluoedd a ffrindiau ac aelodau’r gymuned ehangach yn dod at ei gilydd ac yn mwynhau’r diwrnod. Hoffwn estyn diolch o galon i Miss Llywelyn, Anti Jemma, staff yr ysgol a phwyllgor y Gymdeithas Rhieni, Ffrindiau ac Athrawon am eu holl waith caled i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, i Ed Lloyd am ganiatáu inni ddefnyddio ‘Cae Plas’ fel maes parcio ac i Ifor Williams am fenthyg y trelar pel droed. 

Yn bersonol, roeddwn i’n hoffi’r arwyddion pren cŵl, y peiriannau ar yr iard a gweld y ceisiadau cystadlu. Roedd y gefnogaeth a gawsom gan bawb yn anhygoel, mae gennym ni deulu anhygoel yma yn Ysgol Pentrecelyn. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn nawr i’w wneud yn ddigwyddiad cymunedol blynyddol. Yn ogystal â threfnwyr y digwyddiad, hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i Gareth Wynne a Nick Faire (cyn-ddisgybl) a drwsiodd y fan hufen iâ, gan fynd y tu hwnt i bob disgwyl. Cafodd Nia ac Eleri “Ice Cream” eu synnu gymaint nes eu bod wedi rhoi rhodd garedig i’r ysgol ac eisoes wedi archebu eu lle ar gyfer sioe’r flwyddyn nesaf!!

🐮🐑🐷🍰🍦🐮🐑🐷🍰🍦☀🐮🐑🐷🍰🍦☀🐮🐑🐷🍰🍦☀🐮🐑🐷🍰🍦☀🐮

I am sure that you will all join me in saying that Ysgol Pentrecelyn’s first ‘Agricultural Show’ on the school field on Saturday was an event to remember.  It was so lovely to see all of our families and friends and members of the wider community getting together and enjoying the day.  I would like to extend a heartfelt thanks to Miss Llywelyn, Anti Jemma, the school staff and the Parents Teachers and Friends Association committee for all their hard work in making the day an outstanding success, to Ed Lloyd for allowing us to use ‘Cae Plas’ as parking and to Ifor Williams for allowing us to use the Football Trailer.  

I personally liked the cool wooden signs, the machines on the yard and seeing the competition entries. The support we received from everyone was amazing, we truly do have an amazing family here at Ysgol Pentrecelyn.   We look forward to building on this now to make it an annual community event.  In addition to the organisers of the event I would like also like give a big thanks to Gareth Wynne and Nick Faire (an ex-pupil) who fixed the ice cream van, going over and above all expectations.  Nia and Eleri “Ice Cream” were so taken aback they have made a kind donation to the school and have already booked their slot for next years show!! 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288