Gwybodaeth / Information

Croeso nôl i chi gyd wrth i ni edrych ymlaen at dymor prysur arall.

Byddaf yn ail-anfon nodyn atgoffa o ddyddiadau pwysig yn dilyn y diweddariad hwn.

Cydymdeimlo

Hoffem estyn ein cydymdeimlad diffuant ag Anti Eirian a’i theulu gan ei bod wedi colli ei thad yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu’n ôl gan ein bod ni i gyd wedi ei cholli.

Mae wedi bod yn hanner tymor cyntaf anodd iawn gyda dau aelod allweddol o staff yn delio â phrofedigaeth deuluol agos. Diolchwn i chi gyd am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

CogUrdd

Llongyfarchiadau i Awen a ddaeth yn gyntaf yng nghystadleuaeth CogUrdd yn ddiweddar. Roedd yn gystadleuaeth anodd iawn i’w beirniadu gyda phawb yn cynhyrchu bwyd eithriadol ar y diwrnod.

Llongyfarchiadau

Bydd Miss Ela Wyn Jones yn priodi ddydd Sadwrn y 15fed o Dachwedd. Fel ysgol byddwn yn dymuno’n dda iddi yn ystod ‘Gwener Gwych’ wythnos yma.

COFIWCH – Bydd Rags2Riches yn casglu’r bagiau dillad yfory o 9am.

Cofiwch – hefyd fy neges cyn hanner tymor ynglŷn ag aelodau newydd i’n corff llywodraethol. Anfonwch e-bost neu ffoniwch os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Welcome back to you all as we look forward to another busy term.

 

I will re-send a reminder of important dates following this update.

 

Condolances

 

We would like to extend our sincere condolences to Anti Eirian and her family as she has recently lost her father.  We look forward to welcoming her back as she has been missed by us all.

It has been a very difficult first half-term with two key members of staff dealing with a close family bereavement. We thank you all for your patience and understanding.

 

CogUrdd

 

Congratulations to Awen who came first in the CogUrdd competition recently.  It was a very difficult competition to judge with everyone producing exceptional food on the day.

 

Congratulations

 

Miss Ela Wyn Jones will be getting married on Saturday the 15th of November.  As a school we will be wishing her well during this Friday’s ‘Gwener Gwych’. 

 

 

REMEMBER – Rags2Riches will be collecting the clothes bags tomorrow from 9am.

 

Remember – also my message before half-term regarding new members to our governing body. Please e-mail or call if you would like more information.