Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn 22/4/26 1: 30

Annwyl Rieni, Atgoffa bod Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn yn cael ei chynnal ar Ddydd Mercher, Ebrill 22ain am 1:30yp. Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer prynhawn hamddenol i ddathlu talentau a gwaith caled y plant. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld. Dear Parents, A reminder that our Eisteddfod at Ysgol Pentrecelyn will … Read more

Nosweithiau rhieni – Parents evening

Diolch i bawb a oedd yn gallu ymuno â ni bore yma ar gyfer ein Bore Balch. Roedd yn hyfryd croesawu cymaint ohonoch i’r ysgol. Mwynhaodd y plant rannu’r prosiectau y maent wedi bod yn gweithio mor galed arnynt ac yn dangos eu meysydd dysgu i chi. Yn dilyn gweithgareddau heddiw, rydym bellach yn trefnu … Read more

Dathlu Llwyddiant yr Eisteddfod – Celebrating Our Eisteddfod Success

Dathlu Llwyddiant yr Eisteddfod Rydym yn hynod falch o bawb sydd wedi cynrychioli Ysgol Pentrecelyn yn yr eisteddfodau niferus dros yr wythnosau diwethaf. Mae eich brwdfrydedd, eich gwaith caled, a’ch dawn wedi disgleirio ym mhob perfformiad, ac rydych wedi gwneud i’n hysgol a’n cymuned deimlo’n wirioneddol falch. 🌟 Llongyfarchiadau arbennig i’n grŵp dawnsio gwych ac … Read more

Mewn Cydymdeimlad – In Sympathy

Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth Eleri (Hughes) Wood – “Anti Leri, Ty Coch”, cyn‑ddisgybl, ffrind, a chefnogwraig brwdfrydig ein hysgol. Bu farw Eleri yn sydyn ar ôl brwydr hir a dewr gyda salwch. Roedd hi’n parhau’n rhan annwyl o’n cymuned ysgol drwy gydol ei bywyd, ac roedd ei charedigrwydd, ei … Read more

Cywirdeb dyddiad!! Date Correction!! – Rowlio’r Wy, Helfa Drysor a Gweithgareddau hwyl y Pasg / Ysgol Pentrecelyn Egg Rolling

Rowlio’r Wy, Helfa Drysor a Gweithgareddau hwyl y Pasg Byddwn yn cynnal ein cystadleuaeth draddodiadol Rowlio Wyau blynyddol ar Ddydd Mercher 25ain o Fawrth o 10:30yb ymlaen. Bydd angen i ddisgyblion ddod ag wy wedi’i ferwi’n galed ac wedi ei addurno i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Mi fydd hefyd helfa drysor a gweithgareddau hwyliog y Pasg … Read more

Pasg – Easter

Rowlio’r Wy, Helfa Drysor a Gweithgareddau hwyl y Pasg Byddwn yn cynnal ein cystadleuaeth draddodiadol Rowlio Wyau blynyddol ar Ddydd Mercher 9fed o Ebrill o 10:30yb ymlaen. Bydd angen i ddisgyblion ddod ag wy wedi’i ferwi’n galed ac wedi ei addurno i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Mi fydd hefyd helfa drysor a gweithgareddau hwyliog y Pasg … Read more