Dysgu o bell/Distance learning

Dysgu o bell

Mae dysgu o bell dros gyfnod clo wedi cyflymu’r broses o ail-fodelu gwaith cartref a dysgu adref erbyn hyn.

Wythnos yma byddwn yn ail-gychwyn y broses o ofyn i blant CA2 logio mewn i Hwb adref er mwyn derbyn a chwblhau ‘gwaith cartref’.

Mi fyddwn hefyd yn cyflwyno/ail-gyflwyno google classroom i blant bl 5 a 6.

Bydd angen mwy o amser i ni ddarganfod beth yw’r ffordd orau o gael plant a rhieni Cyfnod Sylfaen i weithio ar lein adref.

Yn y cyfamser, bydd cyfarwyddiadau gwaith cartref a gweithgareddau ar gyfer plant Cyfnod Sylfaen i gwblhau adref yn mynd ar e-bost /ap.

Darllen

Mae ein ffocws ar adfer sgiliau darllen yn mynd yn dda.

Mae gan y plant set o lyfrau yma yn yr ysgol a set sydd yn dod adref. Cofiwch ddychwelyd y llyfrau darllen o adref ar ôl eu gorffen ogydd, er mwyn iddynt gael llyfrau newydd i ddod adref. Bydd y llyfrau yma yn cael eu cadw ar wahan am gyfnod o 72 awr cyn y byddent yn mynd yn ôl ar y silffoedd.

Distance learning

Distance learning over lockdown has accelerated the desire to re-model the idea of home-work/home learning.

This week we will be asking KS2 children to log on to Hwb again at home to receive ‘homework’ to complete on-line.

We will also be introducing/re-introducing google classroom to year 5 and 6 pupils.

More time will be needed to find the best way for the Foundation Phase pupils and parents to work on-line at home.

In the meantime, homework instructions and activities for Foundation Phase pupils will be sent via e-mail/school app. 

Reading

Our focus on recovering reading skills is going well.

Pupils have one set of reading books here at school and one set coming home. Could you please return any reading books once they have finished, so that they can receive new ones. These books will be kept apart for 72 hours before returning to the shelves. 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher Ysgol Pentrecelyn

01978 790288