Ymweliad Talacre 2.7.19 Visit

Annwyl Rieni

Bydd disgyblion Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 yn mynd i Draeth Talacre dydd Mawrth, Gorffennaf 2.  Mae’r ymweliad yma yn barhâd o’r gwaith gwyddonol rydym wedi bod yn ei wneud yn yr ysgol efo David Evans, SARN.

Nid oes gofyn i’r plant wisgo gwisg ysgol, ond mae’n rhaid iddynt wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y traeth.  Byddant angen gwisgo het/cap haul a rhoi eli haul cyn dod i’r ysgol yn y bore a dod â photel eli haul efo nhw hyd yn oed os yw’r tywydd yn gymylog.  Byddant hefyd angen côt law os yw’r tywydd yn wlyb.

Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £7.50 tuag at gost yr ymweliad i’w dalu ar ParentPay os gwelwch yn dda.  Hefyd, gofynnwn i bawb gwblhau’r ffurflen ganiatâd fydd yn cael ei gyrru adre efo’r plant heddiw.

Bydd plant Dosbarth Meithrin yn cael diwrnod hwyl a phicnic yr eirth ar gae’r ysgol ar y diwrnod yma.  Gofynnwn i’r plant Meithrin ddod â thedi efo nhw i’r ysgol.

Bydd Anti Eirian yn paratoi pecyn cinio i blant cinio ysgol sy’n mynd ar y trip ac i’r plant Meithrin sy’n mynd ar y picnic.  Plant brechdanau i ddod â’u pecyn eu hunain ar y trip os gwelwch yn dda.

Yn gywir

Andrew Evans

Dear Parents

Reception to Yr 6 pupils will be going to Talacre Beach on Tuesday, 2 July.  This visit follows on from the science work that we’ve been doing in school with David Evans, SARN.

The children don’t have to wear their school uniform, but they will need to wear appropriate clothing for the beach.  They will need to wear a sun hat/cap and to put sun cream on before coming to school in the morning and to bring a bottle of sun cream with them even if the weather is cloudy.  They will also need a rain coat if it is wet.

We ask kindly for a contribution of £7.50 towards the cost of the visit to be paid on ParentPay please.  We also ask everyone to complete and return the permission form that will be sent home with the children tonight.

Nursery Class children will have a ‘fun day’ and teddy bears’ picnic on the school field on this day.  They will all need to bring a teddy bear to school.

Aunty Eirian will prepare a packed lunch for school dinner children going on the trip and for the Nursery pupils.  Everyone else to bring their own packed lunch on the trip please.

Yours sincerely

Andrew Evans​

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288