Gwybodaeth / Information

Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning 

Rydym yn hynod o falch o’ch hysbysu ein bod wedi codi £175.75 yn ein bore coffi Macmillan.  Roedd hi yn braf gweld ein teuluoedd a’n cymuned yn cyfarfod am baned a sgwrs yn y neuadd.  Defnyddiwyd y bore i hyrwyddo sgiliau entrepreneuriaid hefyd – diolch i Elis a Nansi am serennu ar y diwrnod i helpu’r achos.

We are extremely proud to announce that we have raised a total of £175.75 in our Macmillan Coffee morning.  It was lovely to see our families and community meeting for a cuppa and a chat.  We also took advantage of the opportunity to promote our pupils entrepreneurial skills.  Thank you to Nansi and Elis who were very successful with their enterprises raising money for the cause.

CRrhFfaA / PTFA

Diolch i’r rhai ymunodd a ni yn ein cyfarfod.  Rydym wedi cael dechrau da yn trefnu ein dathliadau 150 ym mis Mai.  Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Iau 9/11/23 am 5:30yp.  Mi fyddwn yn danfon fwy o wybodaeth am ein cynlluniau dathlu amrywiol yn fuan.
Many thanks to those who attended. A very worthwhile start has been made to our 150 year celebration plans in May.  Our next meeting is on Thursday 9/11/23 at 5:30.  A summary of the main points and plans will be shared soon.

Tripiau / Trips

Roedd hi yn braf gweld y plant allan ar dripiau ddoe a heddiw, cofiwch wirio ParentPay am daliadau sydd i’w gwneud.

Great to see the children out and about yesterday and today, remember please to check ParentPay for amounts outstanding.

Gwasanaeth Diolchgarwch / Harvest Thanksgiving

Mae’r CRhFfaA wedi trefnu gweithdy i ddisgyblion Blwyddyn 1 i 6 ar bnawn dydd Mawrth y 24ain o Hydref gyda Ellen Firth ‘ Firth and Flock Flowers’ i greu blodau i addurno’r Capel ar gyfer ein gwasanaeth Diolchgarwch ar y 25ain o Hydref.  Mae hefyd croeso i unrhyw rieni neu Neiniau a Theidiau ymuno a’r gweithdy.  Byddwn yn defnyddio’r ffrwyth a’r cnau rydym wedi ei gasglu wrth fynd am dro yn ystod Gwener Gwych.  Oes gennych afalau/cnau neu dail lliwgar adref fedrith hefyd gael eu hychwanegu byddwn yn ddiolchgar iawn.  Diolch i’r CRhFfaA am drefnu ac ariannu y gweithdy.

Bydd hyn yn brofiad llesol a meddylgar i bawb wrth gyd-weithio gydag eraill i bwrpas.​

Ellen Firth from ‘Firth and Flock Flowers’ will be here on Tuesday 24th October at 1:15 to create flower displays for the Harvest Thanksgiving Service at Pentrecelyn Chapel on Wednesday the 25th.  Ellen will be working with pupils from Years 1 to 6 and there is a welcome to any parent or grandparent that would like to take part in the workshop.  We will be utilising the fruits and nuts we have been collecting during our Friday walks, however if you also have/find apples, colourful leaves, acorns, conkers etc  it would be lovely to incorporate these also into the displays.  Thank you to the PTFA for arranging and covering the cost of this workshop. This will be a fulfilling and mindful experience for all working together for a purpose. 

Rags2Riches


Bydd casgliad bagiau dillad Rags2Riches yn galw dydd Mercher y 18fed o Hydref.  Mi fydd y sied newydd yn agored o nos Wener ymlaen i chi adael bagiau.  Nid oes rhaid i’r dillad fod mewn bag penodol i’r casgliad.

Rags2Riches will be collecting the clothes and shoes from school on Wednesday the 18th October.  the new shed on the yard will be open from Friday evening for bags to be left ready for the collection.  The clothes do not need to be in a specific bag for the collection.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288