Gwybodaeth / Information



‘Tri Copa Cymru’ i Parkinson’s Cymru

Diolch yn fawr i Richard Pierce, Osian a Gwenno Owen, Elliw, Rose, Ynyr, Elen a Gareth Wynne am eu cefnogaeth a’u cymorth i gwblhau’r her ddydd Sadwrn. Gobeithio eich bod yn hoffi eich medal! Hefyd i John Lloyd (John Tacsi) am yrru a rhoi o’i amser dros yr achos ac am ein diddanu. Diolch i Nia “Tŷ Isa/Celyn Kennels” am drefnu bwyd o ‘Lanbennwch’ ac i’r plant, rhieni a ffrindiau am ddod ar bwyd a rhoi hwb i ni yn Nolgellau. Cawsom gyfarfod hefyd â chyn-ddisgybl, sef Sioned (chwaer Gareth, Rob ac Anna), ar gyfer y Copa olaf a braf oedd cael Sioned a Gareth yn dal baner Ysgol Pentrecelyn ar ben Pen y Fan ar ein pen-blwydd swyddogol.

 

Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y rhoddion ar ein tudalen ‘just giving’, llawer o ddiolch i chi i gyd.

 

Staffio

Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu Miss Alaw Llywelyn yn ôl o’i chyfnod Mamolaeth ddydd Llun a hoffwn ddiolch i Mrs Nia Morris am ei gofal, ei chefnogaeth a’i charedigrwydd yn ystod y cyfnod mamolaeth hwn.

Bydd Mrs Morris yn parhau i weithio ochr yn ochr â Miss Llywelyn ac Anti Jemma hyd ddiwedd y tymor ac yna rydym yn falch o gyhoeddi bod Mrs Morris yn disgwyl plentyn arall ym mis Medi. Newyddion ffantastig.

 

Hoffem hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Anti Lydia am y gefnogaeth, y gofal a’r hwyl yng Nglwb Celyn dros y blynyddoedd. Gall y rhai sy’n mynychu’r Clwb yn ôl yr arfer ddydd Mercher nesaf, ddymuno ffarwel hwyliog iddi pryd hynny tra gallwn ni i gyd ddiolch yn swyddogol iddi yn ein cyngerdd ffarwelio ym mis Gorffennaf.

 

Gwener Gwych

Cofiwch dim nofio dydd Gwener yma.

Ar brynhawn dydd Gwener yn neuadd yr ysgol byddwn yn gwylio fersiwn estynedig o ffilm Ysgol Pentrecelyn gan Gethin Humphries. Byddwn hefyd yn beirniadu rhywfaint o waith dosbarth a Chadeirio Blwyddyn 5 a 6. Bydd y raffl fawr hefyd yn cael ei thynnu. Mae croeso i chi ymuno â ni rhwng 1 a 3.

 

Bydd Keri McKie o Parkinson’s Cymru hefyd yn bresennol.

 

Yn ystod y prynhawn byddwn yn cyflwyno ‘Cwpan Coffa’ i’r plant fel y digwyddodd yn 1974 ar gyfer dathliadau 100 mlynedd.

 

CRhFfaA

Bydd y cyfarfod cynllunio olaf nos Fercher am 5:30 i derfynu’r trefniadau ar gyfer dydd Sadwrn.

 

Llun Ysgol Gyfan Tempest

Ar Ddydd Mercher y 1af o Fai bu ffotograffiaeth Tempest yn ymweld â’r ysgol i dynnu llun ysgol gyfan i nodi ein dathliadau 150fed. Gellir prynu copïau o’r rhain trwy wefan Tempest trwy ddilyn y ddolen isod.

https://htmp.st/YsgolPentrecelyn-108
 

Welsh 3 Peaks for Parkinsons Cymru

Many thanks to Richard Pierce, Osian and Gwenno Owen, Elliw, Rose, Ynyr, Elen and Gareth Wynne for their support and help to complete the challenge on Saturday. I hope you like your medal! Also to John Lloyd (John Taxi) for driving and giving his time for the cause and for entertaining us (a true and genuine friend to the school). Thanks to Nia Ty Isa/Celyn Kennels for providing food from Llanbenwch and to the children, parents and friends who delivered the food and gave us a welcome boost at Dolgellau. We were also met by an ex-pupil, Sioned (Gareth, Rob and Anna’s sister), for the final peak and it was great to have Sioned and Gareth holding the Ysgol Pentrecelyn banner on top of Pen y Fan on our official birthday. 

We have been overwhelmed by the donations on our just giving page, many thanks to you all.

 

Staffing 

We are very much looking forward to welcoming Miss Alaw Llywelyn back from her Maternity leave on Monday and wish to thank Mrs Nia Morris for her care, support and kindness during this maternity period.

Mrs Morris will continue to work alongside Miss Llywelyn and Anti Jemma till the end of term and then we are pleased to announce that Mrs Morris is expecting another child in September. Fantastic news.

 

We would also like to take this opportunity to thank Anti Lydia for the support, care and fun she has given to the children of Clwb Celyn over the years. Those attending Clwb as normal next Wednesday can wish her a fun farewell then,  whilst we can all thank her officially during our leavers concert in July.

 

Fantastic Friday

Remember no swimming this Friday.

On Friday afternoon in the school hall we will view an extended version of the Ysgol Pentrecelyn film by Gethin Humphries. We will also be adjudicating some classwork and will host the Year 5 and 6 chairing ceremony. The big raffle will also be drawn. You are welcome to join us between 1 and 3.

Keri McKie from Parkinson’s Cymru will also be in attendance.

During the afternoon the children will be presented with a commemerative mug as happened in 1974 for the 100th birthday celebrations. 

 

PTFA

There will be the last planning meeting on Wednesday evening at 5:30 to finalise arrangements for Saturday.

 

Tempest Whole School picture

On Wednesday the 1st May Tempest photography visited the school to create a whole school picture to mark our 150th celebrations.  Copies of these can be purchased via the Tempest web-site by following the link below.

 

https://htmp.st/YsgolPentrecelyn-108

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288