Gwybodaeth / Information

Diolch yn fawr unwaith eto i bawb am ddiwrnod gwych dydd Sadwrn. Braf oedd gweld cymaint o bobl yn ymuno â ni ar gyfer y dathliadau ac i rannu rhai atgofion gyda disgyblion y gorffennol am eu cyfnod yma yn Ysgol Pentrecelyn.

 

Pob lwc i’r rhai sy’n mynychu Chwaraeon Llanfair yfory a diolch i’r ‘CRhFfA/PTFA’ unwaith eto.

Diolch hefyd i Gruff, Iwan a Harri sydd wedi bod yn ‘hyfforddi’ y tîm pêl-droed.

Rwy’n gobeithio y bydd Nansi a Gwenlllian yn mwynhau’r profiad o fod yn gynorthwywyr brenhines y carnifal.

 

Dymuniadau arbennig i’r criw dawnsio ac Ela fydd yn cystadlu yn y Cog-Urdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wythnos nesaf. Diolch eto i Elen a’r rhieni am eich cefnogaeth.  Edrychwn ymlaen at glywed eich hanesion am y cystadlaethau.  Cofiwch hefyd edrych allan am lun Nel yn y Ganolfan Gelf yn yr eisteddfod.

 

Mae hwn wedi bod yn hanner tymor prysur, gwych a blinedig arall.  Mae’r plant wedi elwa o amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau gwahanol.

 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyd yn ôl ar Ddydd Llun Mehefin 3ydd

 

Pwysig – Diwrnod Hyfforddiant Clwstwr Ysgolion Cynradd Rhuthun – dydd Gwener, Mehefin 14eg.  Ni fydd ysgol na Chylch y diwrnod hwnnw.

 

Ar Ddydd Mercher y 26ain o Fehefin byddwn yn cynnal Te-parti yn yr ysgol lle bydd y plant yn gyfrifol am baratoi a gweini ar gyfer ein gwesteion.  Bydd hwn yn gyfle arall i’n cyn-ddisgyblion a’n ffrindiau ymuno â ni i weld yr hen luniau.

 

Many thanks again to all for a fantastic day on Saturday. It was lovely to see so many people join us for the celebrations and to share some memories with past pupils about their times here at Ysgol Pentrecelyn.

 

All the best to those attending Sports Llanfair tomorrow and thanks to the PTFA once again.

Thanks also to Gruff, Iwan and Harri who have been ‘coaching’ the football team.

I hope Nansi and Gwenlllian will enjoy the experience of being the carnival queens attendants.

 

Special wishes go to the dance group and Ela competing in the Cog-Urdd at the Urdd National Eisteddfod next week. Thanks again to Elen and the parents for your support.  We look forward to hearing your stories of the competitions.  Remember also to look out for Nel’s photo in the Art centre at the eisteddfod.

 

This has been another busy, fantastic and tiring half-term.  The children have benefited from a variety of different experiences and activities.

 

We look forward to welcoming you all back on Monday June 3rd

 

Important – Ruthin Primary School Cluster Training day – Friday, June 14th.  There will be no school or Cylch on that day.

 

On Wednesday the 26th June we will be hosting Tea-party in school where the children will be responsible for making and serving our guests.  This will be another opportunity for our past pupils and friends to join us and view the old pictures.

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288