Croeso ‘nol – Welcome Back

Croeso ‘nol – Welcome Back

Croeso ‘nol i bawb ac edrychwn ymlaen am dywydd mwy sefydlog a chyfle i weithio yn yr awyr agored yr hanner tymor hwn. Roeddwn i’n hynod o falch o weld bod y plant wedi mwynhau gweithgareddau diwrnod olaf hanner tymor diwethaf – sef ymweliad â stori’r Beatles yn Lerpwl a’r Sioe Hud yma yn yr ysgol. Gobeithio bod pawb wedi gweld y lluniau hyfryd ar trydar.

Welcome back to you all and we look forward to some settled weather so we may utilise the fantastic outside areas we have here at Ysgol Pentrecelyn. I am so pleased everyone enjoyed the last day activities of the previous half-term with our visit to the Beatles Story in Liverpool and the Magic show here at school. I hope you have all seen the lovely photos on Twitter.

Ymweliad â Rhuthun

Cofiwch bydd disgyblion Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 & 2 yn ymweld â Llyfrgell Ruthin a galw am baned i gaffi W. & G. Jones bore fory.  Byddwn yn nôl erbyn amser cinio.  Edrychwn ymlaen am ddiwrnod difyr.

Remember that Reception, Year 1 and 2 pupils will be visiting Ruthin tomorrow. They will be going to the Library and for a paned!

Clwb Canu

Gydag Eisteddfod Cylch ar ddydd Sadwrn yma, dim ond y plant sydd yn cystadlu yn y cylch sydd angen aros i glwb canu yfory. Mi fyddwn yn ôl i drefn arferol dydd Mawrth nesaf. Diolch.

As the Eisteddfod is this Saturday, only the children who are competing need to stay for Clwb Canu tomorrow. We will be back to normal routine next Tuesday.

Eisteddfod Cylch

Gweler yr amserlen rhagbrofion a rhaglen ynghlwm. 

See the timetable and programme attached.

Diolch am eich cefnogaeth/Thank you for your support

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

pdf icon Rhaglen-Cylch-Rhuthun-2020.pdf
pdf icon Amserlen-rhagbrofion-Cylch-Rhuthun-2020.pdf