Annwyl Rieni
Free Press – Braf oedd gweld tudalen lawn o luniau a hanes plant Ysgol Pentrecelyn yn y Free Press wythnos diwethaf.
Cystadleuaeth Gymnasteg Genedlaethol yr Urdd – Dymuniadau gorau i Anest, Lili a Magi yfory yn Aberystwyth. Diolch hefyd i’r rhieni am fod mor gefnogol.
Cogurdd – Dymuniadau gorau i Erin yfory hefyd. Bydd Erin yn cynrychioli Ysgol Pentrecelyn yn ail rownd CogUrdd.
Clwb Canu – Cofiwch am y clwb canu ar ôl ysgol yfory – yn enwedig y rhai sy’n cystadlu yn yr Urdd.
Cinio dydd Gwener Chwefror 14 – Bydd Anti Eirian yn paratoi pecyn bwyd i blant cinio ysgol i gyd dydd Gwener yma, h.y. y rhai sy’n mynd i Lerpwl a’r rhai sy’n aros yma.
Ymweliad â Lerpwl – Cofiwch am ein hymweliad â Stori’r Beatles ar gyfer Bl 2 i 6 dydd Gwener yma. Bydd angen gwisg ysgol a dim mwy na £5 o arian poced os gwelwch yn dda. A fyddech cystal â chwblhau a dychwelyd y ffurflen ganiatâd fydd yn dod adre efo’r plant heddiw os gwelwch yn dda a hefyd cofio am y taliad i’w wneud ar ParentPay. Diolch yn fawr.
Sioe Hud – Edrychwn ymlaen at groesawu Proffesor Llusern yma dydd Gwener. Bydd plant Meithrin, Derbyn a Bl 1 yn cael Sioe Hud yn Gymraeg.
Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn – Byddwn yn cael Eisteddfod Ysgol i ddathlu Gŵyl Dewi dydd Mercher, Mawrth 4. Croeso i’r gymuned ymuno â ni yn neuadd yr ysgol yn y pnawn. Dewch draw i glywed y plant yn canu ac adrodd. Bydd seremoni Cadeirio hefyd. Bydd y GRhFfA yn paratoi lluniaeth ysgafn.
Diwrnod y Llyfr – Mae Diwrnod y Llyfr eleni ar ddydd Iau, Mawrth 5, ond byddwn yn dathlu yma ar ddydd Gwener, Mawrth 6. Caiff y plant wisgo fel cymeriad o unrhyw lyfr a dod â’u hoff lyfr Cymraeg efo nhw i’r ysgol.
Hanner tymor – Bydd yr ysgol yn cau am wyliau’r hanner tymor dydd Gwener yma, Chwefror 14 ac yn ail agor ddydd Llun, Chwefror 24.
Yn gywir
Andrew Evans
Dear Parents
Free Press – It was nice to see a full page of Ysgol Pentrecelyn photos and news in last week’s Free Press.
Urdd National Gymnastics Competition – All the best to Anest, Lili and Magi tomorrow in Aberystwyth. Many thanks to the parents for their support.
Cogurdd – All the best to Erin tomorrow. Erin will be representing Ysgol Pentrecelyn in the second round of CogUrdd.
Singing Club – Remember about the singing club tomorrow – especially those who are competing in the Urdd.
School Dinners Friday, 14 February – Aunty Eirian will be making sandwiches for all school dinner children this Friday, i.e. those who are going to Liverpool and those staying in school.
Visit to Liverpool – Remember about our visit to the Beatles Story for Yr 2-6 this Friday. Everyone should wear their school uniform and bring no more than £5 spending money. Please complete the permission form that the children will bring home today and remember about the payment due on ParentPay. Thank you.
Magic Show – We look forward to welcoming Professor Llusern here this Friday. He will be performing a magic show through the medium of Welsh for the Nursery, Reception and Yr 1 pupils.
Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn – We will be holding our school Eisteddfod to celebrate St David’s Day on Wednesday, 4 March. People from the community are welcome to join us in the school hall in the afternoon. Please come to see the children singing and reciting. There will also be a chairing ceremony. The PTA will be preparing some refreshments.
World Book Day – This year, World Book Day is on 5 March, however, we will be celebrating it on Friday, 6 March. The children can come to school dressed as a character from any book and bring their favourite Welsh book to school with them.
Half Term – The school will be closing for the half term holiday this Friday, 14 February and re-opening on Monday, 24 February.
Yours sincerely
Andrew Evans
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288