Dyddiadau Pwysig yr Urdd / Urdd Important Dates

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288


From: Ioan Rees <[email protected]&gt;
Sent: 04 September 2023 15:52
To: Dinbych
Subject: Dyddiadau Pwysig yr Urdd / Urdd Important Dates
 

P’nawn da,

Gobeithio eich bod chi’n setlo fewn yn ôl yn yr Ysgol wrth i’r tymor newydd gychwyn!

Dyma ddiweddariad i chi ar weithgarwch yr Urdd dros y misoedd nesaf fel eich bod chi ‘in the loop’ ynglŷn a bob dim.

Aelodaeth

Mi fydd aelodaeth yr Urdd ar gyfer 2023/24 yn agor Dydd Mercher yma (6/9/23). Felly mae croeso i chi fel athrawon ymaelodi eich plant/disgyblion trwy’ch cyfrif Porth neu gadael i rieni wybod fod aelodaeth ar agor fel eu bod nhw’n gallu ymaelodi eu plant eu hunain.

Cofiwch fod rhaid bod yn aelod o’r Urdd i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, mynychu Adrannau/Uwch-adrannau, mynychu clybiau chwaraeon, ac i fynychu rhai teithiau/gweithgareddau lleol. Mae’n bwysig felly fod pob plentyn yn ymaelodi cyn gynted a phosib.

Cwrs Rhanbarth i Wersyll Caerdydd

Rhwng Tachwedd y 13eg a’r 15fed, bydd cyfle i 100 o blant cynradd o’r Rhanbarth fynd ar Gwrs Rhanbarth i Wersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Bydd gan bob Ysgol uchafswm o 20 plentyn i fynychu’r daith ac mae croeso i hyd at 3 aelod o staff ddod hefo’r criw. Mae’r llefydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Byddaf yn anfon ebost manylach ynglŷn a hyn yn fuan.

Eisteddfod yr Urdd 2024

CogUrdd

Gyda hyn yn dymor newydd, mae trefniadau Eisteddfod hefyd wedi cychwyn ar gyfer 2024.

Dyma ychydig o ddyddiadau pwysig i chi ynglŷn a Rownd Rhanbarthol CogUrdd eleni:

  • 28/09/23 – Cofrestru ar gyfer CogUrdd 2024 yn agor ar y Porth
  • 24/10/23 – Dyddiad Cau Cofrestru ar gyfer CogUrdd 2024
  • 24/11/23 – Rownd Rhanbarthol CogUrdd Sir Ddinbych (Ysgol Uwchradd y Rhyl)

Bydd rhaid i bob ysgol sicrhau eu bod yn cynnal eu Rownd CogUrdd Ysgol o leiaf wythnos cyn y rownd rhanbarthol (erbyn 17/11/23).

Eisteddfodau Cylch/Rhanbarth

Dyma’r dyddiadau sydd wedi cael eu cadw ar gyfer Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth Sir Ddinbych yn 2024:

  • 3/2/24 – Gŵyl Offerynnol ** – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 24/2/24 – Eisteddfod Cylch Rhuthun – Ysgol Brynhyfryd
  • 28/2/24 – Eisteddfod Cylch Edeyrnion – Ysgol Dinas Bran (Ar ôl ysgol)
  • 2/3/24 – Eisteddfod Cylch Dinbych – Ysgol Uwchradd Dinbych
  • 2/3/24 – Eisteddfod Cylch Rhuddlan – Ysgol y Llys
  • 9/3/24 – Eisteddfod Rhanbarth Uwchradd – Ysgol Brynhyfryd
  • 13/3/24 – Eisteddfod Ddawns Rhanbarth – Ysgol Uwchradd y Rhyl (Ar ôl ysgol)
  • 16/3/24 – Eisteddfod Rhanbarth Cynradd – Lleoliad i’w gadarnhau

**Gŵyl Offerynnol

Mae’r Pwyllgor Rhanbarth eleni wedi pasio y bydd pob cystadleuaeth offerynnol (cynradd ac uwchradd) yn digwydd mewn diwrnod arbennig wythnos cyn hanner tymor. Mae pob dyddiad arall hefyd wedi mynd trwy’r Pwyllgor Rhanbarth.

A fedrwch chi felly gadw’r dyddiadau yma yn eich dyddiaduron/calendr os gwelwch chi’n dda. Bydd manylion ynglŷn a chofrestru yn eich cyrraedd yn fuan ynghyd a’r Rhestr Testunau.

Wythnos Cariad@Urdd Rhanbarth Dinbych 2024

Er mwyn codi arian ar gyfer ein Eisteddfodau Cylch yn 2024, hoffwn gyflwyno cynllun Wythnos Cariad@urdd i chi.

Yn ystod wythnos yr 22ain o Ionawr 2024, bydd diwrnod wedi’i bennu i bob cylch er mwyn i ddisgyblion o bob ysgol yn y cylch dalu £1 i ddod fewn yn gwisgo’r lliwiau Coch, Gwyn neu Gwyrdd (neu’r tri).

Dyma’r diwrnodau sydd wedi’w penu:

  • 23/01/24 – Ysgolion Cylch Edeyrnion
  • 24/01/24 – Ysgolion Cylch Rhuthun
  • 25/01/24 – Ysgolion Cylch Rhuddlan
  • 26/01/24 – Ysgolion Cylch Dinbych

Yn ystod pob diwrnod hefyd, mi fydd Mistar Urdd ar gael i wneud ymweliad i 5 ysgol yn y cylch ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd yr arian a godwyd wedyn yn mynd tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod Cylch leol.

Os hoffai eich ysgol gymryd rhan yn y cynllun, a fedrwch adael imi wybod erbyn yr 8fed o Ragfyr fan bellaf os gwelwch chi’n dda. Gadewch imi wybod hefyd os ydych eisiau Mistar Urdd i ymweld a’ch ysgol fel ein bod yn gallu creu amserlen.

Os oes unrhyw gwestiynau ganddoch ynglŷn ag unrhywbeth, mae croeso i chi gysylltu ar unrhyw adeg.

Cofion gorau,

Ioan

P’nawn da,

I hope you are settling back into School as the new term begins!

Here is an update for you on the Urdd’s activities over the coming months so that you are ‘in the loop’ about everything.

Membership

Urdd membership for 2023/24 will open this Wednesday (6/9/23). You are therefore welcome to enlist your children/pupils through your Porth account or let parents know that membership is open so they can enlist their own children.

Remember that it is essential to be a member of the Urdd to compete in the Urdd Eisteddfod, attend adrannau/uwch-adrannau, attend sports clubs, and to attend some local trips/activities. It is therefore important that all children become members as soon as possible.

Regional Course to Cardiff Camp

Between November 13th and 15th, there will be an opportunity for 100 primary school children from the Region to go on a Regional Course to the Urdd Residential Centre in Cardiff Bay.

Each School will have a maximum of 20 children to attend the trip and up to 3 members of staff are welcome to come with the group. Places are available on a first come, first served basis.

I will send a more detailed email about this soon.

Eisteddfod yr Urdd 2024

CogUrdd

With this being a new school term, Eisteddfod arrangements have also started for 2024.

Here are a few important dates for you regarding this year’s CogUrdd Regional Round:

28/09/23 – Registration for CogUrdd 2024 opens on the Porth

24/10/23 – Registration Deadline for CogUrdd 2024

24/11/23 – Denbighshire CogUrdd Regional Round (Rhyl High School)

All schools will have to ensure that they hold their Rchool CogUrdd Round at least a week before the regional round (by 17/11/23).

Area/Regional Eisteddfodau

These are the dates that have been reserved for Denbighshire’s 2024 Area and County Eisteddfodau:

3/2/24 – Instrumental Festival ** – Venue to be confirmed

24/2/24 – Ruthin Area Eisteddfod – Ysgol Brynhyfryd

28/2/24 – Edeyrnion Area Eisteddfod – Ysgol Dinas Bran (After school)

2/3/24 – Denbigh Area Eisteddfod – Denbigh High School

2/3/24 – Rhuddlan Area Eisteddfod – Ysgol y Llys

9/3/24 – County Secondary Eisteddfod – Ysgol Brynhyfryd

13/3/24 – County Dance Eisteddfod – Rhyl High School (After school)

16/3/24 – County Primary Eisteddfod – Venue to be confirmed

**Instrumental Festival

This year the County Committee has passed that all instrumental competitions (primary and secondary) will take place on a special day a week before half term. All other dates have also gone through the Regional Committee.

Can you therefore keep these dates in your diaries/calendar please. Details regarding registration will reach you soon along with the syllabus.

Denbighshire Cariad@Urdd Week 2024

In order to raise money for our Area Eisteddfodau in 2024, I would like to present the Cariad@urdd 2024 Week plan to you.

During the week of the 22nd of January 2024, a day will be given for each area for pupils from every school in the area to pay £1 to come in wearing the Colours of the Urdd; Red, White or Green (or all three). These are the days that have been planned:

– 23/01/24 – Edeyrnion Area Schools

– 24/01/24 – Ruthin Area Schools

– 25/01/24 – Rhuddlan Area Schools

– 26/01/24 – Denbigh Area Schools

During each day, Mistar Urdd will also be available to visit 5 schools in the area on a first-come, first-served basis.

The money raised will then go towards the costs of holding the local Area Eisteddfod.

If your school would like to take part in the scheme, please let me know by the 8th of December at the latest. Let me also know if you want Mistar Urdd to visit your school so we can create a schedule.

If you have any questions about anything, please feel free to get in touch at any time.

Diolch yn fawr,

Ioan

Ioan Wynne Rees

Urdd Gobaith Cymru

Swyddog Cymunedol Rhanbarth Dinbych / Denbighshire Community Officer | Uned 2 Tŷ Panton | Neuadd Panton | Dinbych | LL16 3TL

01745 818603

07976003325

[email protected]

image001-1.png

image002-1.png