Ffermfeisio – Farmvention

Annwyl rieni

Fel y gwyddoch, rwyf yn awyddus iawn i bob plentyn/teulu gymryd rhan yn y prosiect yma. Rwyf yn gobeithio y byddwch chi fel teuluoedd yn ymrwymo iddo ac wedi cychwyn ymchwilio iddo ar lein – http://www.farmvention.com  Mae’r adnoddau a chyfarwyddiadau yn ddwy-ieithog.

Rwyf wedi trefnu noson agored rhwng 3:30 a 5:00 nos Lun nesaf, Hydref 21ain, yma yn Neuadd yr ysgol. Bydd hwn yn gyfle i rai sydd eisiau mwy o gymorth a thrafod syniadau. Nid y gystadleuaeth sydd yn bwysig fel y cyfri, ond y broses o’r ysgol a’r cartref yn cyd-weithio ar waith cartref/dosbarth i bwrpas, yn enwedig mewn ardal wledig fel Pentrecelyn.

Hoffwn i bawb alw i mewn i’r neuadd Nos Lun i ddatgan eich diddordeb a dewis un o’r dair HER! Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Diolch i’r rhai ohonoch sydd wedi yn barod. Os nad ydych yn gallu dod draw a wnewch chi e-bostio neu danfon nodyn yn dewis eich HER.

Yn dilyn y noson yma bydd cyfle i bawb fynd ati yn ystod gwyliau hanner tymor.

Cofiwch ni fydd angen gyrru unrhywbeth rydych yn ei greu – dim ond lluniau/fideo a disgrifiad byr – byddwn yma i helpu rhai sydd yn awyddus i gystadlu – Dyddiad Cau Rhagfyr 23ain.  

Rwyf yn ddiolchgar iawn i gwmni J.Lloyd a’i Fab sydd am noddi’r prosiect yma yn Ysgol Pentrecelyn. Mi fydd hyn yn ein galluogi i helpu rhai o’r plant  yma ar lawr y dosbarth, hyfforddi staff a chynnal y prosiect.

Diolch am eich cefnogaeth

Dear parents

As you are aware, I am very keen for every child/family to part in the Farmvention project. http://www.farmvention.com

I have arranged a drop in session in the school hall on Monday, October 21st between 3:30 and 5:00. This will be an opportunity for anyone to share ideas or to find out more information. The competition isn’t my main aim but the opportunity for school and home to work together on home/classwork for a purpose.

I would like everyone to drop in on Monday to register your interest and state which challenge you intend to attempt. Thanks to those who already have. If you can’t attend, would you be kind enough to e-mail or send a letter in to school stating your interest. Following our drop in evening, there is an opportunity for everyone to work on a challenge over half-term.

For competition purposes there is no need to send anything you create only photos or videos with a brief description – Closing date – December 23rd.

I am very grateful to J.Lloyd a’i Fab for sponsoring the project here at Ysgol Pentrecelyn. This will allow us to assist any child or families here at school, train staff and run the project.

Thank you for your support

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288