Gwybodaeth bwysig / Important Information

Staffio/Staffing

Penodwyd Mrs Nia Morris-Jones (Mrs Morris) sydd yn wreiddiol o Glanrafon, Y Bala, fel athrawes cyfnod mamolaeth i ddosbarth Llywelyn.  Rydym yn edrych ymlaen iddi ymuno a’n teulu yn fuan.

We have appointed Mrs Nia Morris-Jones (Mrs Morris) as a class teacher in dosbarth Llywelyn as maternity cover for Miss Llywelyn.  We look forward to her joining our family soon.

Hoffwn gadarnhau bod Anti Magi hefyd wedi ei phenodi fel cymhorthydd ein Cylch Meithrin.  Mae Anti Magi wedi bod yn rhan o’n tîm ers Ionawr bellach ac mi fydd hi’n helpu yn y clybiau ar adegau hefyd.

We would also like to confirm that Anti Magi has been appointed as an assistant in our Cylch Meithrin.  Anti Magi has been a member of our team since January and will also be helping in clubs occasionally.

Chwaraeon yr Urdd Aberystwyth – Twrnament Pum Bob Ochor Diolch i bawb am eich cefnogaeth gyda’r twrnament Pum bob ochor Pêl Droed yn Aberystwyth yn ddiweddar.  Roedd hi yn braf gweld Ysgol Pentrecelyn yn cystadlu mewn twrnament cenedlaethol.

Urdd Sports Aberystwyth – Five a side tournament 

Thank you all for your support with the Five a side football competition in Aberystwyth recently.  It was fantastic to see Ysgol Pentrecelyn competing in a national tournament.

https://twitter.com/YsgPentrecelyn/status/1657439900583575553/photo/3

Celf a chrefft – Urdd

Rydym yn falch iawn o’r holl waith celf a chrefft gafodd i’w greu yma yn yr Ysgol ag adref i’r cystadlaethau eleni.  Roedd y safon yn wych. Da iawn pawb sydd wedi bod yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Rhanbarth ac yn enwedig Nel am ei llwyddiant yn y rownd genedlaethol ac wedi dod yn ail yn gystadleuaeth 221 – Ffotograffiaeth : Cyfres o Luniau Du a Gwyn Bl.2 ac iau

We are extremely proud of the Craft and Design work that was created for this years Urdd Eisteddfod.  The work was of a very high standard.  Congratulations to those who were successful in the County Eisteddfod and especially to Nel who has been successful at national level too coming second in 221 – Photography : A Series of Black and White Pictures Yrs 2 and younger

Eisteddfod Pwllglas

Llongyfarchiadau i Nansi ar ei llwyddiant yn yr Eisteddfod ar y penwythnos – gwych iawn.

Congratulations to Nansi on her successes at the eisteddfod on the weekend.

Fideo Marchnata Ysgol Pentrecelyn Marketing Fideo

Braf oedd cyd-weithio gyda chwmni ffilmio wythnnos diwethaf wrth ini baratoi clip fideo i arddangos Ysgol Pentrecelyn. Bydd y clip i’w gweld yn fuan.

It was a pleasure working with the production company last week as we filmed clips to showcase Ysgol Pentrecelyn. The clip can be seen soon. 

Trip dosbarth Llywelyn a Dosbarth Eithin

Cafwyd diwrnodau braf i’r tripiau ysgol eleni gyda dosbarth Llywelyn wedi mwynhau ei diwrnod yn Fferm Parkhall a dosbarth Eithin wedi cael amser braf yn Lerpwl.  Diolch i’r CRhFfaA am dalu am gostau’r bws i’r ddau drip.  


Bydd dosbarth Llywelyn, Cylch Ti a Fi a Chylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn yn ymweld a Llanbenwch yfory am baned a sgwrs.

Llywelyn and Eithin Class Trips

We have been fortunate to have good weather for the school trips.  Dosbarth Llywelyn enjoyed their day at Parkhall Farm and dosbarth Eithin have visited the Maritime Museum in Liverpool to coincide with their studies today.  Thanks again to the PTFA for paying for the buses.

Dosbarth Llywelyn, Cylch Ti a fi and Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn will be going to Llanbenwch tomorrow for a paned and catch-up.

 

Sports Llanfair 

Dymuniadau gorau i Gwenllïan fydd yn cael ei choroni fel Brenhines y dydd ar ddydd Sadwrn yn Sports Llanfair.

All the best to Gwenllian on Saturday as she is being crowned as the Queen for the day.

Gweler e-bost arwahan am fanylion y Pêl-droed.

See separate e-mail for the football arrangements.

Dydd Llun Mehefin 5ed 

Cofiwch bydd yr ysgol ar gau ar ddydd Llun oherwydd diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.

Monday 5th June 

Remember that school is closed on Monday as it is a Teacher Training day.

​Rags2Riches 27/6/2023

Mae’r CRhFfaA wedi trefnu casgliad arall o ddillad, esgidiau a bagiau dydd Mawrth 27ain o Fehefin.  Mi fydd hi yn bosib gadael bagiau yng Nghwt Celyn o nos Wener 23ain o Fehefin ymlaen.

The PTFA have organised another collection of clothes, shoes and bags on Tuesday 27th June.  It will be possible to leave any bags in Cwt Celyn from afterschool on Friday the 23rd June.

Parent Pay 

Gofynnwn yn garedig i chi wirio ParentPay a thalu unrhyw ddyledion dros yr hanner tymor.​

We ask kindly that you visit ParentPay over half-term and ensure that any payments outstanding are cleared.

pastedImage.png

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288