Gwybodaeth – Information

Diolch  Hoffwn ddiolch i’r athrawon Mrs Wilson-Jones a Mrs Perrin sydd yn paratoi pecynnau gwaith papur, gosod gwaith ar j2homework neu Seesaw a rhyngweithio gyda chi a’ch plant o bell. Rwyf yn hynod falch o’r ymateb a safon. Hefyd i Miss Ela Jones ag Anti Eirian sydd yn gofalu mor arbennig yn ein hwb gofal plant.​

Thanks

Many thanks to the teachers Mrs Wilson-Jones and Mrs Perrin who are preparing paper work packs, uploading tasks on j2homework or Seesaw and interacting with you and your child. I am really proud of the responses and standard. Also, to Miss Ela Jones and Anti Eirian for their care and attention to the children in our child care Hub. 

CA2 – Cyfarfod dosbarth – Diolch yn fawr iawn i’r plant am fynychu ein cyfarfod dosbarth ar Teams eto wythnos yma. Er mwyn gweld pawb yn y cyfarfod rhaid lawrlwytho’r ap o fewn eich cyfrif Hwb/office 365. Mi wnâi yrru cyfarwyddiadau a fideo i chi ar sut i wneud hyn cyn ein cyfarfod nesaf ar ddydd Mawrth. Diolch hefyd i Mrs Wilson-Jones am grynhoi cynnwys y cyfarfod i rai oedd methu mynychu.

KS2 – class meeting – Many thanks to the children for joining our class meeting on Teams once again this week. In order for the pupils to see all the other pupils present you will need to download the app version through their Hwb/office 365 account. I will send some instructions and a video on how to do this before our next meeting on Tuesday. Thanks also to Mrs Wilson-Jones for summarising the meeting to those who could not attend.

Maths Factor

Gweler cyfarwyddiadau ar gyfer Maths Factor atodol. Defnyddiwch enw a chyfrinair RMeasimaths eich plentyn.

Please find instructions for Maths Factor attached. Your child’s username and password are the same as RMeasimaths.

Cynnal a chadw Mae toiledau’r ysgol wrthi’n cael ei hadnewyddu sydd yn wych. 
Hefyd, mae gosod arwydd Ysgol Pentrecelyn ar y groesffordd yn edrych yn fwy addawol. 

Repair and maintainance

The school toilets renovation has started, which is great.

Also, there are some positive progress regarding placing an Ysgol Pentrecelyn sign on the crossroads.

CRhFfA

Byddai yn braf pe bai’r gymdeithas yn gallu cyfarfod yn rhithiol yn fuan i ddechrau trafod y grant Melinau gwynt, chromebooks a Maths Factor.  Gan fod cyfrifiaduron yn brysur yn yr wythnos mae’r pwyllgor yn awgrymu cyfarfod ar ddydd Sadwrn neu Sul ar Zoom.

​It would be great if the PTFA could meet virtually soon to begin discussing the Wind turbine grant application, chromebooks and Maths Factor.  As family computers are very bust during the week the committee are proposing to arrange a meeting via zoom an a Saturday or Sunday.

Gwaith ail-wynebu B5429 Pentrecelyn

Byddwch yn ymwybodol o ddydd Mawrth Chwefror 2il am hyd at 5 diwrnod.

Re-surfacing works B5429 Pentrecelyn 

Be aware from Tuesday 2nd February for up to 5 days.

Cinio Ysgol/School dinner

Os gwelwch yn dda fedrwch chi dalu am unrhyw ginio ar ParentPay.

Please can you pay for any dinners on ParentPay.

Diolch am eich cefnogaeth/Thank you for your support

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

pdf icon Cychwyn-Defnyddio-Maths-Factor-Starting-Maths-Factor.pdf