Gwersi Offerynnol / Music Lessons
Rydym yn hynod o falch fod 7 plentyn yn cael gwersi offerynnol yma, cofiwch wirio eich Parent Pay i wneud taliadau.
We are pleased that 7 pupils have taken advantage of the offer of Music Lessons. Please can you check ParentPay for payments due.
Gwener Gwych
Fel rhan o ddathliadau dydd Miwsig Cymru byddwn yn cael disgo miwsig Cymru yn ystod ein Gwener Gwych wythnos yma. Caiff y plant wisgo dillad eu hunain dydd Gwener yma.
As part of Welsh Music day we will be hosting a Welsh Music disco on Friday. Pupils may come to school in their own clothes.
Côr Cynradd Sir Ddinbych
Rydym wedi derbyn y manylion yma am Côr Cynradd Sir Ddinbych, os oes gan eich plentyn ddiddordeb ag ymuno peidiwch ag oedi rydym ar ddeall fod llefydd yn brin.
We have received this information today about Denbighshire Primary Choir, we understand that places are limited therefore please do not hesitate in contacting Denbighshire Music Society.
Grant Cymunedol Tesco Community Grants – Ysgol Pentrecelyn
Offer Buarth – Playground Equipment
Rydym wedi derbyn cadarnhad fod Ysgol Pentrecelyn wedi bod yn llwyddiannus gydag ein cais a byddwn yn derbyn grant o £1395.00 tuag at offer tu allan. Diolch i Lydia am ei holl waith caled yn trefnu y cais.
We have received confirmation that Ysgol Pentrecelyn were successful with their application and will receive a grant of £1395.00 towards Playground equipment. Many thanks to Lydia for her hard work organising the application.
Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog / Clocaenog Forest Wind Farm Fund
Mae’r cais am grant tuag at Adeilad Cymunedol yn Ysgol Pentrecelyn wedi bod yn llwyddiannus!! Gobeithiwn fydd yr adeilad yn ei le erbyn diwedd y Gwanwyn. Dosbarth tu allan ar fuarth yr Ysgol fydd hwn, newyddion gwych i ni gyd.
The application for a grant towards a Community Building in Ysgol Pentrecelyn has been successful and we hope that it will be in place by the end of the Spring. This will be an outside open classroom area, fantastic news for us all.
Cadw’n Heini Chwefror / Ffit February
Byddwn yn ceisio gwneud cymaint o’r gweithgareddau yma ag y gallwn ac mae rhai i chi wneud adref hefyd. Gweler y daflen atodedig am fwy o fanylion.
We will be undertaking as many activities as we can as part of Ffit February. Please see attached flyer for more information.
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288