Gwybodaeth – Information

Bore Coffi Mawr Macmillan Medi 30ain 2022 

Macmillan Big Coffee Morning 30th September 2022

Mae croeso mawr i bawb ymuno a ni yn neuadd yr Ysgol ar gyfer Bore Coffi Mawr Macmillan dydd Gwener yma rhwng 9:45yb a 11:15yb. Bydd ystafell Cylch ar gael i Gylch Ti a Fi ddefnyddio a bydd gweithgareddau wedi ei threfnu gan Anti Jemma.  Gofynnwn yn garedig am gyfraniadau o Gacennau a gwobrau raffl i’r achlysur.  
Diolch mawr hefyd i Sara yn Llanbenwch am ei chefnogaeth gyda chacennau a gwobr i’r raffl eto eleni. Mi fydd tocynnau ar werth ar y diwrnod am £1 yr un.

​There is a warm welcome for you to join us in the school hall for our Big Macmillan Coffee Morning from 9:45am to 11:15am.  

Cylch and Ti a Fi are also welcome in the Cylchroom, Anti Jemma will have arranged some activities for them.  We ask kindly for donations of cakes and raffle prizes for the event.  

A Big Thank you to Sara from Llanbenwch for her support again this year with cakes and a raffle prize. Tickets will be available to purchase on the day at a cost of £1 each.

Gwasanaeth Diolchgarwch Hydref 19eg 2022 – 2yp-3yp

Harvest Thanksgiving Service 19th October 2022 – 2pm – 3pm

Byddwn yn cynnal ein Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Bethel Pentrecelyn pnawn dydd Mercher y 19eg o Hydref. Fel yr arfer mi fydd croeso i chi fynd a’ch plant adref syth ar ôl y gwasanaeth os ydych yn dymuno.

We will be visiting Capel Bethel Pentrecelyn for our Harvest Thanksgiving Service on Wednesday 19th October.  Children can go home with parents straight from the service if you wish.

Parent Pay

Ydi hi yn bosib i bawb wirio eich cyfrifon Parent Pay a gwneud taliadau fel sydd angen. 

Please can you all visit your Parent Pay accounts and make payments where needed.

Cardiau Nadolig IQ / IQ Christmas Cards

Rydym yn gobeithio bydd gwaith darlunio cardiau Nadolig eich plant yn dod adref erbyn dydd Gwener er mwyn i chi archebu nwyddau at y Nadolig.  Bydd taliadau yn cael ei gwneud drwy ParentPay neu Siec yn daliedig i CRhFfaA Ysgol Pentrecelyn i rieni Ti a Fi sydd heb gyfrif ParentPay eto.  Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd yr archeb i’r Ysgol erbyn dydd Gwener y 14eg o Hydref. Mi fydd y taliad yn ymddangos ar ParentPay erbyn dydd Llun 17eg o Hydref a bydd angen i’r taliadau cael ei gwneud erbyn dydd Gwener y 21ain Hydref.  Wedi i’r taliadau gael ei gwneud mi fydd bosib i ni ddanfon archeb yr ysgol gyfan i IQ.

We hope that your children’s Christmas card designs will be coming home with them on Friday for you to see and complete your order of Christmas items.  Payment for these orders will be made via ParentPay.  We ask kindly that you return the orders to school by Friday 14th October, Payment on ParentPay will need to be made by Friday 21st October, we will then place the whole school order with IQ.  If you do not have a ParentPay account, payment can be made by cheque payable to CRhFfaA Ysgol Pentrecelyn.

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288