Gwybodaeth / Information

Cofiwch

Diwrnod hyfforddiant – Dydd Llun, Chwefror 27ain 
Hoffwn eich atgoffa chi am y cyfarfod nos Fawrth 28ain o Chwefror gyda’r Arolygwyr Estyn am 3:45 yn neuadd yr ysgol.  Gwnewch bob ymdrech i fynychu er mwyn i chi fel rhieni drafod y ddarpariaeth addysg a gofal mae eich plentyn yn ei dderbyn yn yr ysgol. Ar y noson yma bydd croeso i unrhyw blentyn ymuno yn y clwb celf er mwyn hwyluso gofal plant.

Reminder
Training Day – Monday, February 27th

We would like to remind all parents of the important meeting on Tuesday 28th February with the Inspectors from Estyn at 3:45 in the school hall. Please make every effort to attend to discuss the provision and care your children receive at Ysgol Pentrecelyn.  All children will be able to attend the craft club on that evening to help with childcare arrangements.

Diolch i Osian a Hywel Owen, Rob a Gareth Wynne am dorri’r coed wythnos yma. Mae’r ardal wedi goleuo wir!

Thank you to Osian, Hywel Owen, Rob and Gareth Wynne for the recent tree trimming around the school, the area has really brightened up following their hard work!

Diolch hefyd i Richard Pierce am ddod i’r ysgol a rhoi sgwrs mor ddiddorol am bysgod ac afonydd lleol fel rhan o’i gwaith thema Môr a Mynydd.

Thank you also to Richard Pierce for coming to school and giving such and interesting talk to the children about fish and our local rivers as part of their theme work.

Diolch i Lydia ac Andy am osod y teledu a’r blwch post yn ddiweddar.

Many thanks to Lydia and Andy for putting up the TV screen in reception and our post box.

Yn dilyn cyfarfod Llywodraethwyr neithiwr hoffwn gadarnhau ein bod wedi apwyntio 4 aelod newydd i’r corff.  Edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ffurfiol yn ein cyfarfod nesaf.

Following a governors meeting last night we can inform you that we have 4 new members, we look forward to formally welcoming them in the next meeting.

Mr Ynyr Jones

Mrs Siân Mosford

Mr Dylan Norton 

Mr Richard Pierce 

Eisteddfod Cylch yr Urdd


Bydd amserlen Eisteddfod Cylch yn cael i’w rannu pan rydym yn ei dderbyn gan yr Urdd.​

We will share the timetable for the Eisteddfod Cylch once we receive it from the Urdd.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

pdf icon Ysgol-Pentrecelyn.pdf