Gwybodaeth / Information

Tywydd / Weather

Diolch i bawb am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth wrth ddelio gyda’r sefyllfa eira yn ddiweddar. 

Many thanks to you all for your co-operation and understanding when dealing with the snow last week.

Cyfarfod Cynnydd dosbarth Llywelyn / Progress Meeting Llywelyn class

Yn dilyn cyfarfodydd cynnydd dosbarth Eithin ar ddechrau’r mis bydd cyfle rwan i chi drafod gyda staff dosbarth Llywelyn ar ddydd Llun, Chwefror 27ain.  Bydd apwyntiadau yn dilyn yn fuan.

Following our progress meeting for dosbarth Eithin at the beginning of the month there will now be an opportunity to discuss with Llywelyn class staff on Monday, February 27th.  The appointment times will follow shortly.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i longyfarch Miss Alaw Llywelyn gyda’r newyddion arbennig ei bod yn disgwyl ei phlentyn cyntaf ym mis Gorffennaf.

We would like to take this opportunity to formally congratulate Miss Alaw Llywelyn on the wonderful news that she is expecting her first child in July.

Clwb Crefft yr Urdd / Urdd Craft Club

​ 

Mae clwb crefft yr Urdd yn parhau tan wyliau’r Pasg er mwyn creu eitemau i’r Eisteddfod.   Dyddiad cau ar gyfer gwaith Celf, Dylunio a Thechnoleg ydi’r 3ydd Mai.

The Urdd Craft club is continuing until the Easter holidays to enable pupils to create items for the Eisteddfod.  The closing date for the Art, Design and Technology Competitions (no. 170-295) is 3rd May.

Trip Canolfan yr Urdd Caerdydd – Blwyddyn 5 a 6 – Mehefin 28 i 30. / Trip to the Urdd Centre in Cardiff – Years 5 & 6 – June 28 to 30.


Cofiwch wirio eich bod wedi talu’r blaendal o £30 erbyn dydd Iau gan ein bod yn cadarnhau niferoedd fydd yn ymuno ar drip i Ganolfan yr Urdd.

Please remember to check that you have paid the £30 deposit by Thursday so that we can confirm numbers for our visit to Cardiff.

Diwrnod Trwynau Coch / Red Nose Day 

Mae Cabinet yr ysgol am drefnu gweithgareddau hwylus yn ystod pnawn ein Gwener Gwych.  Mae’r Cabinet yn gofyn i’r plant wisgo elfen o goch yn ei dillad sydd angen bod yn addas i weithgareddau hwyl yn yr awyr agored y diwrnod yma. Cewch gyfrannu ar ParentPay.​

The school cabinet will arrange various fun activities during our Fantastic Friday afternoon.  They would like the pupils to wear an element of red in their clothing that is suitable for outdoor fun and activities.  Donations can be made via ParentPay. 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288