Gwybodaeth / Information

Hyfforddiant Fferm Seren

Cofiwch wrth gasglu plant o’r clwb heno y bydd buarth a maes parcio’r ysgol yn brysur gan ein bod yn hyfforddi athrawon heno (ac yn disgwyl 50+).

Celf a Chrefft yr Urdd

Cofiwch os ydi eich plentyn am gystadlu gyda Chelf a Chrefft yn Eisteddfod yr Urdd eleni mae heno ydi’r noson olaf i gofrestru’r gwaith ag i’r gwaith ddod i’r ysgol erbyn dydd Gwener os gwelwch yn dda.

Twrnamaint Pêl-rwyd Cymysg (Bl 4-6).

Mae’r twrnamaint a gafodd ei ganslo cyn y Pasg wedi’i aildrefnu ar gyfer yfory. Dilad Addysg Gorfforol i’r ysgol os gwelwch yn dda. Bydd Anti Eirian yn trefnu pecyn bwyd i’r disgyblion sy’n mynychu ac mae’r trefniadau fel o’r blaen.

Rags2Riches

Rydym yn disgwyl i’r fan gasglu’r bagiau rhwng 9:15 a 2:30 yfory. Gellir gadael unrhyw fagiau yn Cwt Celyn.

DarllenCo

Gweler y neges isod yn dilyn problemau gweinyddol yn ddiweddar

“Rydym wedi rhyddhau nifer o ddiweddariadau mawr dros y penwythnos i’r gweinydd (server) ac i wella cyflymder cyflawni tasgau drwy gyfrifon staff. Efallai y byddwch yn dod ar draws rhai problemau cychwynnol y bore yma gan fod y wefan dan straen am y tro cyntaf a llawer o ddefnyddwyr ar y system. Ymddiheuriadau mawr am hyn!

Rhai problemau sydd wedi codi a sut i’w trwsio:

  • Defnyddiwch y ddolen darllenco.wales yn lle .cymru am nawr
  • Os oes ‘Server Error’ yn ymddangos ail-lwythwch y dudalen”
Cyngerdd Nos Wener
Cofiwch fod y lleoliad wedi newid i Gapel Tabernacl, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, lledaenwch y gair.

Seren’s Farm Training

Please be mindful when collecting children from club tonight that the school yard and car park will be busy as we are training teachers this evening (and expecting 50+).

Urdd Eisteddfod Craft Competitions

Please remember that the closing date for all entries is today, please can the completed work be sent to school for Friday.


Mixed Netball tournament (Yr 4-6).

The tournament cancelled before Easter has been rearranged for tomorrow.  PE Clothes to school please. Anti Eirian will be arranging a packed lunch for the pupils attending and all arrangements are as before.

Rags2Riches

We are expecting the van to collect the bags between 9:15 and 2:30 tomorrow.  Any bags can be left in Cwt Celyn.

DarllenCo 

Please see message below following server issues recently

“We have released a number of major updates over the weekend to the server and to improve the speed of carrying out tasks through staff accounts. You may encounter some initial problems this morning as the site is under stress for the first time and many users are on the system. Big apologies for this!

Some problems that have arisen and how to fix them:

  • Use the link readingco.wales instead of .cymru for now
  • If ‘Server Error’ appears please reload the page”

Concert Friday Evening

Remember location has changed to Capel Tabernacl, Well Street, Ruthin, please spread the word.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288