Llythyr 15/7/19 Letter

Annwyl rieni

Diwrnod i’r Brenin/Brenhines Bl 6
Rwyf yn gobeithio bod Bl 6 wedi mwynhau ei diwrnod arbennig heddiw.

Cofiwch am ein gwasanaeth ffarwelio yfory yng nghapel Pentrecelyn am 1.30yp – croeso cynnes i bawb.

Llythrennau YSGOL PENTRECELYN
Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Ieuan White sydd wedi ein helpu i weithredu ar syniad. Mae’n edrych yn gret yndydi
 
Mabolgampau
Diolch i bawb am noson arbennig ac i’r plant am drio’u gorau glas yn y rasus.

Adroddiadau Diwedd Blwyddyn
Gobeithio bod pawb wedi derbyn adroddiad eich plentyn erbyn hyn.  Cofiwch bydd cyfle i drafod yr adroddiad nos Fercher yma rhwng 3.30-5.30yp.

Loteri Ysgol Pentrecelyn

Rydym wedi dechrau loteri ysgol.  Bydd tocynnau’n £1 yr un a bydd 40% o elw’r gwerthiant yn mynd i’r ysgol.  Am fwy o fanylion ewch I http://www.yourschoollottery.co.uk/play .

Cynllun Darllen yr Haf

Diolch I Meira o Lyfrgell Rhuthun am ddod i’r ysgol heddiw I gyflwyno Cynllun Darllen yr Haf y Llyfrgell.  Y Ras Ofod ydi’r thema eleni.  Mae plant Ysgol Pentrecelyn yn wych am gefnogi’r cynllun bob blwyddyn, felly rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn derbyn medal ym mis Medi am gymryd rhan yn y cynllun.  Ewch I unrhyw lyfrgell yn Sir Ddinbych I gael manylion sut I ymaelodi eich plentyn ar y cynllun.

Diwedd Tymor
Bydd yr ysgol yn cau dydd Gwener yma, Gorffennaf 19 ac yn ail-agor i’r plant ar ddydd Mercher, Medi 4.  Bydd dydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos honno yn ddiwrnodau hyfforddiant staff.

Mwynhewch wyliau’r haf!

  Yn gywir Andrew Evans   Dear Parents  

Year 6 Away-Day

I hope that Yr 6 have all enjoyed their special day today.

Remember about our leavers’ service tomorrow in Pentrecelyn Chapel at 1.30pm – a warm welcome to everyone.


YSGOL PENTRECELYN Letters

Many thanks to Mr Ieuan White for turning an idea into reality!  It looks great doesn’t it.

School Sports Day
Many thanks to everyone who made the evening special and to the children for trying their very best in the races.


End of Year Reports
I hope everyone has received their child’s report by now.  Remember there is a chance for you to come in to discuss the report this Wednesday between 3.30-5.30pm.

Ysgol Pentrecelyn Lottery

We have started a school lottery.  Tickets are £1 each and 40% of all sales profits go to the school.  For more information, go to

http://www.yourschoollottery.co.uk/play .

Summer Reading Scheme

Many thanks to Meira from Ruthin Library for coming to school today to introduce the Library’s Summer Reading Scheme.  The title this year is Space Chase.  Ysgol Pentrecelyn pupils usually do very well in the scheme each year, so we look forward to seeing everyone receive a medal in September for taking part.  You can go to any library in Denbighshire to register for the scheme.

End of Term
School closes this Friday, 19 July and re-opens for the children on Wednesday, 4 September.  Monday and Tuesday of that week are staff training days.

Enjoy the summer break!

  Yours sincerely Andrew Evans

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288