Llythyr 2/12/19 Letter

Annwyl rieni

Panto Arwyr – Cawsom brynhawn i’w gofio dydd Gwener. Hefyd, stori yn agos iawn at ein calon yma. Diolch eto i’r GRhFfA am gyfrannu.  Ymddiheuriadau bod taliad £5 CA2 ddim wedi ymddangos ar Parentpay, mae wedi’i ychwanegu erbyn hyn.  Bydd plant Meithrin yn mynd i weld sioe Cyw gyda chriw Ti a Fi ar ddydd Iau, Rhagfyr y 5ed.  Pob hwyl iddynt.

Clwb Canu – Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein clwb canu hyd yn hyn.  Bydd saib rŵan dros y Nadolig.   Byddwn yn dechrau yn ôl ar Ionawr 14 yn anelu ar gyfer yr eisteddfod.

Ffermfeisio – Cofiwch am y prosiect arbennig yma. Dyma gyfle i ni ddangos beth y gallwn gyflawni yma fel cymuned Pentrecelyn. Hyd yn hyn dim ond ychydig o ymdrechion sydd wedi dod i law.

Gymnasteg – Pob hwyl i Anest, Magi a Lili sydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd ‘fory.

Sioe Nadolig Iesu yw’r Baban – Byddwch yn derbyn mwy o wybodaeth am wisgoedd ayb heddiw. Diolch am eich cefnogaeth

Ffair Nadolig Llysfasi – Bydd plant Pentrecelyn yn canu yno pnawn Iau yma, Rhagfyr 5. Dewch yn llu i’n cefnogi

Ffair Nadolig Ysgol Pentrecelyn – Edrychwn ymlaen tuag at ein Ffair Nadolig nos Wener yma, Rhagfyr 6. Diolch i bawb o flaen llaw.

Rudolph Run – Byddwn yn cymryd rhan mewn Rudolph Run dydd Iau, Rhagfyr 12 o gwmpas yr ysgol.  Os nad yw’r tywydd yn ffafriol dydd Iau, byddwn yn ei wneud dydd Gwener.  Dyma ffordd dda o gael gwared â’r twrci a’r pwdin o’r diwrnod cynt, sef cinio Nadolig yr ysgol.  Ond yn bwysicach, byddwn yn casglu arian tuag at Hosbis Tŷ’r Eos.  Byddwch yn derbyn ffurflen noddi heddiw.  Diolch am eich cefnogaeth.

Yn gywir
Andrew Evans

Dear Parents

Pantomime – We had an afternoon to remember on Friday.  The story was particularly relevant to us in a small, rural community.  Many thanks once again to the PTA for their contribution.  Apologies that the payment of £5 for KS2 children did not appear on ParentPay, it has now been added.  Nursery and Ti a Fi children will be going to see ‘Sioe Nadolig Cyw’ this Thursday, 5 December. 

Singing Club – Many thanks to all those that have supported the Singing Club up to now.  We will not be meeting again until the new year.  The first session in the new year will be on Tuesday, 14 January and we’ll be preparing for the Eisteddfod.

Farmvention – Remember about our special project.  Here is a chance for us to show what we can achieve here in the Pentrecelyn community.  We have only received a few items so far.

Gymnastics – All the best to Anest, Magi and Lili who will be competing in the Urdd gymnastics tournament tomorrow.

Christmas Show ‘Iesu yw’r Baban’ – More information about costumes etc today.  Thank you for your co-operation.

Llysfasi College – Pentrecelyn children will be singing in Llysfasi’s Christmas Fair this Thursday, 5 December.  Please come to support.

Ysgol Pentrecelyn Christmas Fair – We’re all looking forward to the Christmas Fair this Friday, 6 December.  Thank you for your support.

Rudolph Run – We will be taking part in the Rudolph Run challenge on Thursday, 12 December around the school.  If the weather is wet on Thursday, it will take place on Friday, 13 December.  This will be a very good way of getting rid of the turkey and pudding from the previous day!  But more importantly, we will be collecting towards Nightingale House Hospice.  The sponsor forms will be coming home today.  Thank you for your support.

Yn gywir
Andrew Evans

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288