Llythyr 27/2/2020 Letter

Annwyl Rieni

Eisteddfod Cylch Rhuthun – Dydd Sadwrn yma, Chwefror 29 mae Eisteddfod Cylch yn Ysgol Brynhyfryd.  Rwyf eisoes wedi anfon allan amserlen y rhagbrofion a rhaglen yr eisteddfod.  Gofynnwn i bawb sy’n cystadlu mewn rhagbrawf i sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ystafell briodol mewn da bryd cyn yr amser dechrau.  Bydd angen i’r Parti Canu gyfarfod yn nerbynfa Ysgol Brynhyfryd am 1.00yp yn eu gwisg ysgol os gwelwch yn dda.

Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn – Byddwn yn cael Eisteddfod Ysgol i ddathlu Gŵyl Dewi dydd Mercher, Mawrth 4. Croeso i’r gymuned ymuno â ni yn neuadd yr ysgol yn y pnawn. Dewch draw i glywed y plant yn canu ac adrodd. Bydd seremoni Cadeirio hefyd. Bydd y GRhFfA yn paratoi lluniaeth ysgafn. Mae’r GRhFfA yn gofyn yn garedig am help efo’r lluniaeth os gwelwch yn dda.  Ar y diwrnod hwn caiff y plant ddod i’r ysgol mewn gwisg Gymreig, crys pêl-droed/rygbi Cymru neu unrhyw beth coch/gwyn/gwyrdd.

Diwrnod y Llyfr – Mae Diwrnod y Llyfr eleni ar ddydd Iau, Mawrth 5, ond byddwn yn dathlu yma ar ddydd Gwener, Mawrth 6.  Caiff y plant wisgo fel cymeriad o unrhyw lyfr a dod â’u hoff lyfr Cymraeg efo nhw i’r ysgol.

Dau Ginio Arbennig – Bydd Anti Eirian yn paratoi dau ginio arbennig wythnos nesaf, un ar thema Gŵyl Dewi ar ddydd Mercher, Mawrth 4 a’r llall ar thema Diwrnod y Llyfr ar ddydd Gwener, Mawrth 6.

Cofnodion Cyfarfod y GRhFfA – Rwy’n atodi copi o gofnodion cyfarfod diwethaf y GRhFfA.

Yn gywir
Andrew Evans

Dear Parents

Eisteddfod Cylch is held this Saturday, 29 February in Ysgol Brynhyfryd.  I have already sent out the prelim timetable and the afternoon programme.  We ask everyone who has a prelim to make sure that they are in the appropriate room in plenty of time before the prelim starts. The singing party should meet in the foyer at Ysgol Brynhyfryd at 1.00pm in their school uniform please.

Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn – We will be holding our school Eisteddfod to celebrate St David’s Day on Wednesday, 4 March.  People from the community are welcome to join us in the school hall in the afternoon.  Please come to see the children singing and reciting.  There will also be a chairing ceremony.  The PTA will be preparing some refreshments.  The PTA asks kindly for help with the refreshments please.  On this day the children can come to school in Welsh costumes, Welsh football/rugby shirt or anything red/green/white.

World Book Day – This year, World Book Day is on 5 March, however, we will be celebrating it on Friday, 6 March.  The children can come to school dressed as a character from any book and bring their favourite Welsh book to school with them.

Two Special School Dinners – Aunty Eirian will be preparing two special themed dinners next week, one to celebrate St David’s Day on Wednesday, 4 March and one to celebrate World Book Day on Friday, 6 March.

PTFA Minutes – I’m attaching a copy of the minutes of the last PTFA meeting.

Yours sincerely

Andrew Evans

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

doc icon Cofnodion-CRhFfaA-Ysgol-Pentrecelyn-16Ion19.docx