Annwyl Rieni
Nofio – Yn anffodus, oherwydd cymhlethdod gydag amserlenni’r pwll nofio, ni fyddwn yn dechrau ar ein gwersi nofio rwan tan ar ôl hanner tymor. Ymddiheuriadau am hyn a byddwn yn cadarnhau’r trefniadau yn syth ar ôl hanner tymor.
Diwrnod Brig-Ddyn Cyfnod Sylfaen – Bydd disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael diwrnod dathlu Brig-Ddyn yfory Chwefror 4. Ei bwrpas fydd i gynnal diwrnod llawn gweithgareddau a chloi y rhan yma o’r thema. Cofiwch bydd cyfle i’r plant ddod i’r ysgol yn gwisgo lliwiau perthnasol megis brown neu wyrdd yn lle gwisg ysgol arferol.
Ymweliad â Lerpwl – Bydd plant Bl 2-6 yn ymweld â Lerpwl (Stori’r Beatles) ar ddydd Gwener, Chwefror 14. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £8 y pen i’w dalu ar ParentPay os gwelwch yn dda. Diolch i’r GRhFfA am gyfraniad tuag at y costau cludiant.
Sioe Hud – Tra bydd plant Bl 2 i 6 yn Lerpwl bydd plant Meithrin, Derbyn a Bl 1 yn cael Sioe Hud yma yn yr ysgol gyda Proffesor Llusern. Gofynnwn am gyfraniad o £4 tuag at y Sioe Hud a diolch eto i’r GRhFfA am eich cymorth.
CogUrdd – Cofiwch fod cystadleuaeth CogUrdd pnawn Mercher yma, Chwefror 5. Mae digon o offer yn yr ysgol, ond os ydy eich plant wedi arfer ag offer o adref, fel cyllell arbennig, mae croeso iddynt ddod â phethau hefo nhw. Cofiwch hefyd does dim ond angen gwneud 4 cebab i’r rownd yma.
Dydd Miwsig Cymru – Edrychwn ymlaen at ‘Dydd Miwsig Cymru’ dydd Gwener yma Chwefror 7. Fel rhan o’r dathliad byddwn yn creu pump uchaf o gerddoriaeth Cymraeg Ysgol Pentrecelyn.
Yn gywir
Andrew Evans
Dear Parents
Swimming – Unfortunately, due to complications with the swimming pool’s timetable, we will not be starting swimming lessons until after half term. Apologies for this. We will confirm arrangements straight after half term.
Stick-Man Day – Foundation Phase pupils will be celebrating Brig-Ddyn (Stick-Man) tomorrow, 4 February. Its purpose will be to have a full day of activities to end our theme. Remember the children can come to school wearing anything suitable, such as anything brown/green, instead of their school uniform.
Visit to Liverpool – Yr 2-6 children will be going to Liverpool (The Beatles Story) on Friday, 14 February. We ask kindly for a contribution of £8 each towards the cost to be paid on ParentPay please. Many thanks to the PTA for their contribution towards the transport cost.
Magic Show – While Yr 2-6 children are in Liverpool, the Nursery, Reception and Yr 1 children will have a magic show in school with Professor Llusern. We ask kindly for a contribution of £4 each towards the cost and thank the PTA once again for their donation.
CogUrdd – Remember that the CogUrdd competition is this Wednesday, 5 February. We have enough equipment in school, but if your child is used to using equipment from home, such as a particular knife, then they are welcome to bring it to school. Also, remember that we only need 4 kebabs for this round.
Dydd Miwsig Cymru – We look forward to ‘Wales Music Day’ this Friday, 7 February. As part of the celebrations, we will be creating Ysgol Pentrecelyn Welsh Music Top 5.
Yours sincerely
Andrew Evans
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288