Llythyr 9/3/2020 Letter

Annwyl Rieni

Eisteddfod Ddawns – Bydd y Grŵp Dawnsio Gwerin a’r Grŵp Dawnsio Disgo yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ddawns prynhawn yfory, Mawrth 10.  Gofynnwn i blant y Grŵp Dawnsio Gwerin gyfarfod Mrs Wilson-Jones yng nghyntedd Ysgol Brynhyfryd am 4.30yp yn eu gwisgoedd os gwelwch yn dda.

Clwb Canu – Ni fydd Clwb Canu nos yfory oherwydd yr Eisteddfod Ddawns.

Coronavirus – Rydym yn derbyn diweddariadau yn gyson gan Gyngor Sir Ddinbych ynghylch y firws.  Dyma’r linc i wefan y Gwasanaeth Iechyd sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf.
icc.gig.cymru/newyddion1/datganiad-iechyd-cyhoeddus-cymru-ar-achos-coronafeirws-newydd-yn-tsiena/

Taliadau ParentPay – Gofynnwn yn garedig i bawb edrych ar eu cyfrifon ParentPay i sicrhau eich bod wedi talu am bob eitem sy’n ddyledus, e.e. trip Lerpwl, Clwb Canu, bws nofio, pecyn, cinio a Chlwb Brecwast.  Diolch yn fawr.

Cystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd – Mae beirniadu’r eitemau celf a chrefft yn digwydd ym Mhafiliwn Llangollen fore Mawrth, Ebrill 21.  Felly, er mwyn rhoi amser i ni gofrestru pob eitem ac argraffu’r labeli, gofynnwn i bawb sydd am gystadlu i ddod â phob eitem i’r ysgol cyn gwyliau’r Pasg neu ar ddydd Llun, Ebrill 20 (dim ysgol i’r plant ar y diwrnod yma gan ei fod yn ddiwrnod hyfforddi staff).

Gwyliau Pasg – Bydd yr ysgol yn cau am wyliau’r Pasg ddydd Gwener, Ebrill 3 ac yn ail agor i’r plant ddydd Mawrth, Ebrill 21.

Yn gywir

Andrew Evans

Dear Parents

Dance Eisteddfod – The Folk Dance Group and the Disco Dancing Group will be competing in the Dance Eisteddfod tomorrow evening, 10 March.  We ask all members of the Folk Dance Group to meet Mrs Wilson-Jones in the foyer in Ysgol Brynhyfryd at 4.30pm wearing their costumes please.

Clwb Canu – There will be no Clwb Canu tomorrow evening because of the Dance Eisteddfod.

Coronavirus – We are constantly receiving up-to-date information from Denbighshire County Council regarding the virus.  Here is the Health Service link with all the latest information:
https://icc.gig.cymru/newyddion1/datganiad-iechyd-cyhoeddus-cymru-ar-achos-coronafeirws-newydd-yn-tsiena/

ParentPay Payments – We ask kindly that everyone check their ParentPay account to ensure that all items have been paid for, e.g. Liverpool trip, Clwb Canu, snacks, bus to swimming lessons, dinners and Breakfast Club.  Many thanks.

Urdd Art and Craft Competitions – Judging of the art and craft competitions will be in Llangollen Pavilion on Tuesday morning, 21 April.  Therefore, in order to give us time to register each item and print labels, we ask that the items be brought to school either before the Easter holiday or on Monday, 20 April (which is a staff training day).

Easter Holiday – The school will close for the Easter holiday on Friday, 3 April and re-open for the children on Tuesday, 21 April.

Yours sincerely

Andrew Evans​

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288