Newyddion Gwych / Fantastic News

Prynhawn Da,

Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw’n dda ac wedi dad-flino o’r holl addurno!

Ma’i wedi bod yn bleser pur dros yr wythnos ddiwethaf i drafeilio o gwmpas gyda’r beirniaid yn gweld pob Ysgol wedi ei haddurno’n goch, gwyn, a gwyrdd a thu hwnt!

Dylai pob disgybl, athro, ac athrawes fod yn hynod falch o’r hyn maent wedi ei chyflawni dros yr wythnosau diwethaf, a dyma wahoddiad i chi fel ysgolion y sir rannu’ch addurniadau ar y cyfryngau cymdeithasol os nad ydych wedi’i wneud yn barod!

Mae ein beirniaid, Heledd Owain Jones a Delyth Williams wedi cael cryn fwynhad yn mynd rownd yr ysgolion, a dyma air bach ganddynt i bob Ysgol:

Diolch o galon i bawb a fu wrthi mor brysur yn addurno’ch ysgol.  Roedd safon y gystadleuaeth hon mor, mor uchel, a phob ysgol wedi mynd i gymaint o ymdrech ac yn werth eu gweld!  Cawsom wledd i’r llygaid ym mhob ysgol gyda’r coch, gwyn a gwyrdd yn llenwi’r lle.  Roedd hi’n amlwg bod cydweithio a chynllunio mawr wedi mynd i’r addurno a roedd syniadau gwreiddiol i’w gweld ym mhob ysgol.  Braint oedd cael ymweld a phob un ysgol a diolch i chi gyd am y croeso cynnes a’ch gwaith eithriadol o galed yn addurno.  Llongyfarchiadau i’r dair ysgol a ddaeth i’r brig.   

Hawdd fyddai wedi bod i roi cyntaf i bob Ysgol, ond am mae cystadleuaeth oedd hi, roedd rhaid dewis 3 ysgol. Felly, dyma’r ysgolion yn ol y beirniaid sydd wedi dod i’r brig:

1af.                    Ysgol Pentrecelyn

2il.                      Ysgol y Llys

3ydd.                 Ysgol Carrog

Llongyfarchiadau mawr i’r dair Ysgol yn arbennig, ond hefyd i bawb a gymerodd rhan!

Os nad oedd eich Ysgol chi’n fuddugol, peidiwch a phoeni, nid dyma lle mae’n gorffen. Rydym wedi bod mewn trafodaethau hefo Adran yr Eisteddfod a’n gobeithio y bydd pob Ysgol yn cael darparu un addurn, boed yn faner, arddangosfa, bel mawr, palet pren neu hyd yn oed papur toilet i’w harddangos yn y Babell Groeso yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mwy am hyn i ddilyn!

Llongyfarchiadau mawr i bawb unwaith eto!

Ioan

Ioan Wynne Rees

Urdd Gobaith Cymru

Swyddog Prosiect Eisteddfod Sir Ddinbych / Denbighshire Eisteddfod Officer | Uned 2 Tŷ Panton | Neuadd Panton | Dinbych | LL16 3TL

01745 818603

07976 003325

[email protected]″>