Er gwybodaeth / Information
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288
From: Lois Wynne <[email protected]>
Sent: 09 May 2022 16:45
To: Ysgol Pentrecelyn
Subject: Gwahoddiad/Invitation: Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Ysgol Pentrecelyn
Pentrecelyn
Ruthun
Sir Ddinbych
LL15 2HG
Mai/May 2022
*Bilingual message, see below for English
Annwyl Bennaeth,
Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi y bydd Ifor Williams Trailers Ltd yn un o brif noddwyr Eisteddfod yr Urdd eleni a fydd yn Sir Ddinbych rhwng dydd Llun, Mai 30ain a dydd Sadwrn, Mehefin 4ydd.
Ar ôl dwy flynedd o oedi oherwydd Covid-19 bydd yr Eisteddfod yn ŵyl a fydd yn siwr o fod yn wledd i’r llygad – a’r glust, ac am ychwanegu tipyn o hwyl i’n hamserlenni.
Fel rhan o’n nawdd bydd gennym stondin fawr ar y Maes gyda nifer o gemau, heriau a gweithgareddau i ddiddanu’r teulu cyfan; pêl-droed pen bwrdd, gem linell RGC a llawer llawer mwy!
Yn y digwyddiad byddwn yn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru i Blant. Mae hon yn adran arbenigol o elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy’n darparu gofal arbenigol a chludiant sydd ei angen ar gyfer cleifion pediatrig a newydd enedigol. Maent yn helpu tua 400 o blant a babanod y flwyddyn, naill ai ar deithiau brys 999 neu drwy ddefnyddio hofrennydd trosglwyddo pwrpasol.
Roedd amcanion a nodau’r ddau endid, yr Urdd a’r elusen yn cyd-fynd yn berffaith ag ethos ein cwmni, felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi partneru â nhw.
Ac yn ystod wythnos o gythraul canu a chystadlu, bydd gennym hefyd gystadleuaeth yn rhedeg yn ystod yr wythnos. Byddwn yn gofyn am gyfraniad o £1, a bydd y cystadleuydd â’r sgôr uchaf a’r ysgol maent yn mynychu yn derbyn gwobr.
Felly hoffem estyn gwahoddiad cynnes i chi, eich staff, disgyblion a theuluoedd Ysgol Pentrecelyn i fynychu ac ymuno â ni yn ystod yr wythnos.
Hefyd, gan fod llawer ohonoch wedi bod yn gweithio ac yn ymarfer yn galed tuag at y cystadlaethau, bydd gennym ofod pwrpasol a chaeedig i ysgolion gael ymgynnull ac ymarfer. Bydd yr Eisteddfod yn darparu bysellfwrdd neu biano ar gyfer yr ystafell hon.
Er hwylustod i bawb, isod mae dolen y gellir ei dilyn i archebu slot mewn ysbeidiau o 60 munud – mewn tri cam syml. Sicrhewch eich bod yn cynnwys cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac enw’r ysgol os gwelwch yn dda.
1. Cliciwch y ddolen
2. Cliciwch ar ‘Ystafell Ymgynnull Ifor Williams Trailers, Eisteddfod yr Urdd 2022’
3. Dewiswch yr amser gorau, llenwi’r manylion a cadarhanhau
https://www.picktime.com/EisteddfodyrUrddSirDdinbych2022
Fel cwmni cynhenid Cymreig rydym yn falch o gefnogi Eisteddfod yr Urdd 2022 ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yno.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y digwyddiad neu gymorth o sut i archebu amser yn y gofod ymarfer mae croeso i chi gysylltu â ni.
Yr eiddoch yn gywir,
Lois Wynne Dafydd Jones
Ar ran John a Carole Williams, Cyfarwyddwyr Ifor Williams Trailers Ltd.
Dear Head,
Denbighshire Urdd Eisteddfod, 2022
We are delighted to announce that Ifor Williams Trailers Ltd will be one of the main sponsors of the Urdd Eisteddfodtaking place in Denbigh between Monday 30th May and Saturday 4th June.
After a two-year delay due to Covid-19 the Eisteddfod will be a festival that will be a feast for the eyes and ears and will bring some much-needed joy and fun to our calendars.
As part of our sponsorship we will have a large trade stand with numerous games, challenges and activities to entertain the whole family; table top football and an RGC Line Out Game to name just a few!
At the event we will be raising funds towards the Children’s Wales Air Ambulance. This is a specialist division of the Wales Air Ambulance charity providing expert care and transport required for paediatric and neonatal patients. They help around 400 children and babies a year, either on emergency 999 missions or by using a dedicated transfer helicopter.
The objectives and aims of both entities are aligned perfectly with our company ethos, therefore we are simply thrilled to have partnered with both.
And in the air of competition, we will also have one running during the week and will be asking for a £1 donation per contestant, and for the highest score there will be a prize for both the contestant and the school that they attend.
We would therefore like to extend the warmest of invitations to you, your staff, pupils and families of Ysgol Pentrecelyn to attend and join us during the week.
Also, as many of you have been working and practising hard towards the competitions, we will also have a dedicated and enclosed space for schools to gather and practice, the Eisteddfod will be providing a keyboard or piano for this space.
For the convenience of all, below is a link that can be followed to reserve spaces in intervals of 60 minutes in 3 easy steps.
1. Click the link
2. Click ‘Ystafell Ymgynull Ifor Williams Trailers, Eisteddfod yr Urdd 2022’
3. Select your preferred time, enter your School details and confirm
Please ensure that you include an email address, telephone number and the name of the school.
https://www.picktime.com/EisteddfodyrUrddSirDdinbych2022
As a Welsh indigenous company we are proud of supporting the Urdd Eisteddfod in 2022 and we look forward to welcoming you there.
If you would like any further information in relation to the event or assistance with reserving a time for the rehearsal space please do not hesitate to contact.
Yours faithfully,
Lois Wynne Dafydd Jones
On behalf of John and Carole Williams, the Directors of Ifor Williams Trailers Ltd.