Pwysig Llythyr – gwybodaeth/ Important Letter – information

Llongyfarchiadau 

Llongyfarchiadau enfawr i ddawnswyr Pentrecelyn ddydd Mawrth yn y Rhyl. Roedd eu perfformiadau yn anhygoel ac roedden nhw i gyd yn disgleirio yn erbyn cystadleuaeth gref gan ysgolion llawer mwy. Edrychwn ymlaen at y cyfle i’w gweld i gyd yn dawnsio eto yn ein heisteddfod ysgol brynhawn Iau ac edrychwn ymlaen at weld y Grŵp Hip Hop yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn ym mis Mai.​

Congratulations 

A huge congratulations to Pentrecelyn dancers on Tuesday in Rhyl.  Their performances were amazing and they all shone against strong competition from much larger schools. We look forward to the opportunity to see them all dance again in our school eisteddfod on Thursday afternoon and look forward to seeing the Hip Hop Group perform in the National Urdd Eisteddfod in Maldwyn in May.

Dymuniadau gorau

Dymuniadau gorau i’r parti canu  a Nansi yn Eisteddfod y Sir yn Llangollen dydd Sadwrn yma.  Os gwelwch yn dda fedrith y parti canu cyfarfod am 12 yng Nghaffi’r Pafiliwn.

Best wishes

Best wishes to the singing party and Nansi at the County Eisteddfod in Llangollen this Saturday. Please can the singing party meet at 12 in Pavilion Café.

WI Llanelidan

Os gwelwch yn dda all rhieni plant derbyn i flwyddyn 6 gadarnhau os ydych ar gael nos Fawrth am 6yh.

Could all parents of children in reception to year 6 please confirm whether you are available on Tuesday night at 6pm.

Pel-rwyd cymysg Urdd 

Bydd disgyblion Blwyddyn 4 i 6 yn cymryd rhan mewn twrnament Pêl-rwyd gymysg yr Urdd ar ddydd Mercher 20fed o Fawrth. Bydd y twrnament yn cael ei gynnal yn Ysgol Glan Clwyd. Mae’r tîm pêl-rwyd yn cael pecyn cinio dydd Mercher wedi ei baratoi gan gegin yr ysgol. Bydd Mrs Morris yn mynd gyda’r tîm i’r gystadleuaeth ac fe fyddan nhw’n teithio yno mewn tacsi Baines sy’n cael ei yrru gan John Lloyd.

Urdd mixed netball tournament 

Pupils in Years 4 to 6 will be competing in the Urdd’s mixed Netball tournament on Wednesday 20th March. The tournament will be held in Ysgol Glan Clwyd. The Netball team will be having a packed lunch on Wednesday prepared by the school kitchen.  Mrs Morris will be accompanying the team to the competition and they will travel there in Baines’ taxi driven by John Lloyd.

Rowlio‘r Wy 

Byddwn yn cynnal ein cystadleuaeth draddodiadol Rowlio Wyau blynyddol ar Ddydd Iau 21ain Mawrth am 10yb. Bydd angen i ddisgyblion ddod ag wy wedi’i ferwi’n galed ac addurno i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Mae croeso i rieni a ffrindiau ymuno â ni i rannu yn y gweithgaredd traddodiadol hwn yn ein 150fed blwyddyn.

Ysgol Pentrecelyn Egg Rowling

We will be holding our annual Egg rolling competition on Thursday 21st March at 10am.  Pupils will need to bring a decorated hard boiled egg to school that day.  Parents and Friends are welcome to join us to share in this traditional activity in our 150th year.  



Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn 

Byddwn yn cynnal ein Heisteddfod Ysgol flynyddol yn yr HWB Cymunedol Llysfasi prynhawn dydd Iau’r 21ain o Fawrth am 1:30yp.  Mae croeso i rieni, ffrindiau a’r gymuned ymuno a ni i ddathlu talentau’r ysgol.  Mi fydd hyn yn gyfle arall i’r disgyblion arddangos yr eitemau maen nhw wedi dysgu i Eisteddfod yr Urdd ac yn yr ysgol eleni.   

Ni fydd cystadleuaeth Cadeirio na gwaith dosbarth yn digwydd yn eisteddfod yr ysgol yn yr Hwb eleni gan ein bod wedi penderfynu y bydd y seremonïau a’r canlyniadau hyn yn cael eu cynnal yma yn yr ysgol ar Fai 17eg fel rhan o brynhawn dathlu 150 mlwyddiant, lle byddwn yn gallu cynnig paned o de a chacen a thynnu y raffl Pen-blwydd Crand 150.​

Ysgol Pentrecelyn School Eisteddfod

We will be holding our annual School Eisteddfod in the Community HWB in Llysfasi on Thursday the 21st of March at 1:30pm (prompt). Parents, friends and the community are welcome to join us in celebrating the school’s talents. This will be another opportunity for the pupils to display the items they have learned at the Urdd Eisteddfod and at school this year.

There will not be a Chairing or class work competition taking place in the school eisteddfod at the Hwb this year as we have decided that these ceremonies and results will take place here in school on May 17th as part of the 150th Anniversary celebration afternoon, where we will be able to serve tea and cake and draw the Grand 150th Birthday Raffle.


Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288