Diwedd Tymor – End of Term


Diweddariad ar ddysgu wyneb yn wyneb yn ysgolion Sir Ddinbych

Bydd ysgolion yn Sir Ddinbych yn dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Gwener oherwydd achosion cynyddol o Covid-19 yn genedlaethol.

Mae Cyngor Sir Dinbych, yn dilyn trafodaethau â phenaethiaid, yn hysbysu rhieni y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ysgolion y sir yn gorffen ar ddiwedd y diwrnod ysgol ddydd Gwener, Rhagfyr 17.

Mae’r penderfyniad wedi’i wneud heddiw i roi cymaint o rybudd â phosib i rieni.

Bydd dysgu o bell yn parhau mewn ysgolion tan ddiwedd y dydd ddydd Mawrth, Rhagfyr 21, sef diwrnod olaf y tymor.

Gwnaed y penderfyniad i amddiffyn disgyblion a staff ar ôl i Lywodraeth y DU symud i Lefel Rhybudd 4, sy’n nodi bod y trosglwyddiad yn uchel ac mae pwysau uniongyrchol Covid-19 ar wasanaethau gofal iechyd yn eang.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion ac wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn rŵan i roi cymaint o rybudd â phosib i rieni o ddiwedd dysgu wyneb yn wyneb ddydd Gwener.

“Wrth i’r amrywiolyn Omicron ddod i’r amlwg, cynnydd yn nifer yr achosion ledled y DU a’r newid yn lefel y rhybudd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn disgyblion a staff ysgolion.

“Bydd dysgu ar-lein yn parhau ddydd Llun a dydd Mawrth (Rhagfyr 20fed a’r 21ain) hyd at ddiwedd y tymor.

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i’n holl athrawon am eu hymroddiad parhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn, i ddisgyblion am eu cefnogaeth i helpu i reoli’r firws ar safleoedd ysgolion ac i rieni am fynd â’u plant am brofion pan ofynnir iddynt wneud hynny gan Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

“Er gwaethaf yr anawsterau wrth barhau ag addysg yn ystod y pandemig, mae pawb sy’n cymryd rhan wedi rhoi eu gorau glas i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl.”

Update on Face-to-face learning at Denbighshire schools

Schools in Denbighshire will end face-to-face learning on Friday due to rising cases of Covd-19 nationally.

Denbighshire County Council, following discussions with headteachers, is informing parents that face-to face learning in the county’s schools will finish at the end of the school day on Friday, December 17.

The decision has been made today to give parents as much notice as possible.

Remote learning will continue at schools until the end of the day on Tuesday, December 21, which is the last day of term.

The decision has been taken to protect pupils and staff after the UK Government’s move to Alert Level 4, which states transmission is high and direct Covid-19 pressure on healthcare services is widespread.

Cllr Huw Hilditch-Roberts, the Council’s Lead Member for Education, Children’s Services and Public Engagement, said: “We have been working closely with our schools and have taken this difficult decision now to give parents as much notice as possible of the end of face-to-face learning on Friday.

“With the emergence of the Omicron variant, rising case numbers across the UK and the change in alert level, we are doing everything we can to protect pupils and school staff.

“Online learning will continue on Monday and Tuesday (December 20th and 21th) up to the end of term.

“I would like to once again thank all of our teachers for their continued dedication during this difficult time, pupils for their support for helping control the virus at school sites and parents for taking their children for tests when requested by Test, Trace and Protect.

“Despite the difficulties in continuing education during the pandemic, everyone involved has given their all to ensure our children get the very best education possible.”

G W Davies

Geraint Davies

Pennaeth Addysg / Head of Education