Diweddariad-Update

Annwyl rieni

Gobeithio bod plantos Pentrecelyn yn iawn. Diolch i rai ohonoch sydd wedi ymateb ar Trydar – mae o’n wir codi calon.

Gweler y llythyr atodol ynglyn a threfniadau newydd ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol.

Gwyliau Pasg

Nid ydym fel athrawon wedi cael cyfarwyddyd i osod mwy o waith i blant dros Wyliau’r Pasg. Ond, cofiwch edrych ar ein cyfrif Trydar am fwy o syniadau a phosau.

Mi fydden fel staff yn gweithio yn yr ‘Hubs’ ar rota dros gwyliau’r Pasg. Mi fydden ni hefyd yn paratoi pecynnau ychwanegol i chi ar gyfer y cyfnod ar ôl Pasg.

Chromebook/ipad

Mi fyddaf yn gwneud ymholiadau heddiw ynglyn a’r posibilrwydd o rhoi benthyg chromebook/ipad i rai ohonoch sydd eisiau un efallai. Unwaith y byddaf yn gwybod mwy, gwnawn drefniadau i chi alw draw.

Cymwch ofal

Dear parents

I hope Pentrecelyn pupils are ok. Thanks to those of you who are interacting on Twitter – it does give us all a boost.

Please find attached a letter regarding new care arrangements for pupils of key workers.

Easter holidays.

There is no expectation for teachers to set work over the Easter holidays. However, keep following our Twitter page for ideas and puzzles. As staff, we will be preparing learning packs for the period after Easter. We will also be working in the care hubs on a rota basis.

Chromebooks/ipad

I will be making enquiries today regarding the possibility of using a school chromebook/ipad at home. Once I know more , I will make arrangements for those who are interested.

Take care

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

pdf icon 20-04-01-letter-to-parents-carers-hub-model.pdf