Annwyl rieni
Ar hyn o bryd mae’r ysgol yn parhau ar agor oherwydd bod lefelau staffio yn briodol. Ond, gall hyn newid unrhyw amser yn ystod y cyfnod ansicr yma. Felly, plîs sicrhewch eich bod wedi lawrlwytho Ap Pentrecelyn idderbyn unrhyw wybodaeth swyddogol.
Gai hefyd ddiolch i rai ohonoch sydd wedi bod yn garedig yn holi am ein lles ni yma fel staff yn ystod y cyfnod heriol yma.
Os ydych yn penderfynu cadw eich plentyn adref mi fyddwn yn parchu hyn. Er hyn, penderfyniad chwi fel rhieni yw hyn yn unol a chanllawiau y Llywodraeth. Ni allwn ni fel staff benderfynu hyn ar sail pwy sydd wedi bod mewn cyswllt gyda phwy.
Ni fyddem yn mynd i nofio ‘fory.
Bydd pecynnau bach o waith yn cychwyn mynd adref o heddiw ymlaen hefyd. Cofiwch gysylltu os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda Hwb ac RM easi maths adref.
Dear parents
The school remains open at the minute as the staffing levels are still adequate. However, this can change in this very uncertain period. Can you therefore please ensure that you have downloaded the School App for any official updates.
Can I also take this opportunity to thank those of you who have been kind enough to enquire about the staff wellbeing in these challenging times.
If you do choose to keep your child off school then we will respect this. However, it is your decision as parents based on Government guidelines. We as staff cannot make this decision based on hearsay regarding contact between children.
We will not be going swimming tomorrow.
We will begin sending some workpacks home from today. Please contact us if you are having any difficulties with Hwb and RM easi maths at home.
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288