Gwybodaeth diwedd Tymor / End of Term Information

Annwyl rieni, Dear parents

A dyma ni wedi cyrraedd diwedd y tymor, a sôn am dymor prysur!

We have reached the end of a very busy term!

Hoffwn ddiolch i bawb am eich cefnogaeth i ni fel ysgol yn ystod y tymor. Gobeithio cewch chi amser i ymlacio efo’ch teuluoedd dros Ŵyl y Pasg. Dyma ychydig o ddyddiadau a gwybodaeth i chi.

Please see some important dates and information. We hope that you will have some time to relax with family and friends over the Easter break.

Eisteddfod yr Urdd . ​Hoffwn ddiolch rieni am eich parodrwydd i gefnogi trefniadau’r Eisteddfodau eleni. Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr sydd wedi bod yn cystadlu yn yr Urdd ers y cychwyn ac yn fwy diweddar yn y bythefnos ddiwethaf.  Rydym yn hynod falch ohonoch i gyd.

Eisteddfod yr Urdd

We would like to thank you all as parents/ family and friends for supporting all our different arrangements for the Urdd Eisteddfod this year. We would like to congratulate each and everyone who has competed in any of the competitions from the beginning and now more recently in the last fortnight. We are very proud of you all.


Celf a chrefft

Os oes amser dros wyliau Pasg beth am drio’r cystadlaethau celf a chrefft yr Urdd ar y thema ‘Cynefin’. Mae yna syniadau yma i chi a rhestrau o’r cystadlaethau:

https://www.urdd.cymru/files/3816/7535/2772/CYNEFIN.pdf

https://www.urdd.cymru/files/9716/7757/7238/RRhestr_Testunau_2023_CY_v11.pdf

Bydd angen uwchlwytho lluniau o’ch gwaith i ‘r Porth erbyn 3/5/23. Gweler yr atodiad.

Arts and Crafts

If you have some spare time over the holidays why not try the Urdd’s Arts and crafts competition based on the theme HABITATS? Here are two links with some ideas for you and the different categories:

https://www.urdd.cymru/files/3816/7535/2772/CYNEFIN.pdf

https://www.urdd.cymru/en/eisteddfod/20231/rhestr-testunau/

You will then need to upload photos of your entries to Y Porth by 3/5/23. Please see the attachment.

Cyfansoddi caneuon

Diolch i Morgan Elwy o Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych am ddod i weithio gyda dosbarth Eithin i greu a chyfansoddi caneuon gyda’i gilydd.

Composing songs

Thank you to Morgan Elwy from Denbighshrie Music Co-operative for the Music Writting Session in dosbarth Eithin, fabulous workshop, composing and performing a song in less than an hour!

Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn 2023

Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan a chafwyd brynhawn arbennig o ddathlu doniau ein disgyblion a Phen-blwydd cyntaf Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn gydag ein teuluoedd a ffrindiau.

Llongyfarchiadau arbennig i Ela Wynne ar ennill cadair Eisteddfod Ysgol Pentrecelyn.

Ysgol Pentrecelyn Eisteddfod 2023

Congratulations to all for taking part in this years’ school eisteddfod. We had an fun filled afternoon of performances and were also able to celebrate Cylch Meithrin’s First Birthday with our families and friends.

Special congratulations to Ela Wynne for winning this year’s Chair.

Bydd yr ysgol ar gau :

Bydd yr ysgol yn cau ar ddydd Gwener, Mawrth 31ain ar gyfer y gwyliau Pasg ac yn ail-agor i bawb ar ddydd Llun, Ebrill 17eg.

1/5/23-Dydd Llun – Gŵyl y Banc Calan Mai

8/5/23 -Dydd Llun – Gŵyl Banc y Coroni

5/6/ 2023 Dydd Llun Hyfforddiant Staff (HMS ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ysgolion gyda ffocws ar ddatblygiad y Cwricwlwm i Gymru).

Diwedd tymor yr haf- Mae’r ysgol yn cau i ddisgyblion ar gyfer diwedd tymor yr haf ar ddydd Mercher, Gorffennaf 19eg, 2023.

The school will be closed:

The school will be closing on Friday March 31st for the Easter break and will be re-opening to all on Monday, April 17th.

1/5/23 -Monday – May bank holiday

8/5/23– Monday – Coronation bank holiday

5/6/ 2023 – Additional Teacher training day (HMS from Welsh Government with a focus on the new curriculum for Wales)

School closes for the Summer holidays for pupils on Wednesday 19th July, 2023.

Diolch yn fawr i chi gyd am bob cefnogaeth dros y tymor sydd wedi bod ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio eto yn y tymor newydd sydd i ddod.​

Thank you all for your continued support during the past term and we look forward to working together once more during the summer term.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

doc icon Llythyr-Celf-a-Chrefft-2023.docx