Gwybodaeth – Information

Diolch i bawb am gefnogi ein bore agored a bore coffi wythnos ddiwethaf. Casglwyd £154.30 ar gyfer Macmillan. 

Thanks to everyone who supported our open morning and coffee morning last week. £154.30 was raised for Macmillan.

Wythnos asesu Hydref 4-8

Bydd eich plentyn yn cwblhau asesiadau ac arsylwadau sgiliau sylfaen amrywiol yn ystod ein hwythnos asesu wythnos nesaf.

Bydd hyn yn ein galluogi i adolygu targedau presennol a gosod targedau newydd. 

Byddwn yn cynnal nosweithiau rhieni yn fuan er mwyn rhannu’r wybodaeth yma – trefniadau i’w gadarnhau.

Assessment week October 4-8 

Your child will be completing various basic skills assessments and observations next week. This will enable us to review present targets and set new targets. We will hold a parents evening soon to share this information – arrangements to be confirmed.

Diolch am eich cefnogaeth/Thank you for your support 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288