Wrth i’r flwyddyn addysgol ddirwyn i ben, hoffwn gymryd y cyfle i adfyfyrio ar y flwyddyn arall heriol sydd wedi bod. Blwyddyn lwyddiannus iawn mewn llawer o ffyrdd, ond hefyd blwyddyn sydd wedi cael ei effeithio gydag absenoldebau Cofid eto – yn enwedig cyfnod y Nadolig.
Fel staff ysgol a chylch Meithrin rydym wedi taflu popeth at eich plant y flwyddyn yma, er mwyn ‘dal i fyny’ gyda phrofiadau a sgiliau. Mae llawer o amser a sylw wedi cael ei rhoi i les a hapusrwydd eich plentyn hefyd. Rwyf wir yn gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi hyn ac yn gweld a chlywed am hyn yn gyson. Diolch enfawr i’r staff gwych sydd yma – maent yn wir haeddu seibiant dros yr haf.
Llongyfarchiadau i Miss Ela Jones sydd wedi pasio Lefel 3 Ysgol Goedwig ac i Miss Alaw Llywelyn sydd wedi pasio ei ANG (Athrawes newydd gymhwyso).
Mi fyddwch yn derbyn adroddiad eich plentyn ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 19eg a bydd yr ysgol yn cau ar gyfer wyliau’r haf ar Ddydd Mercher, Gorffennaf 20fed. Dymuniadau gorau i blant blwyddyn 6 ym mis Medi, ac i bawb o deulu Pentrecelyn dros yr haf. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall prysur a chyffrous gyda Chwricwlwm newydd ar y gorwel.
Gweler atodol ein rhesymwaith ar gyfer y Cwricwlwm newydd yma yn Ysgol Pentrecelyn.
Yn gywir
As this Academic year draws to a close I would like to take this opportunity to reflect on another challenging year that has flown by. A very successful year in lots of many ways but also a challenging one with Covid absences – especially around Christmas time.
As school and cylch meithrin staff we have given so much to your children this year in order that they ‘catch-up’ with experiences and skills. A considerable amount of time and attention has also been given to your child’s well-being and happiness too. I really hope that you appreciate this and see and hear about it all the time. A big thanks to all the staff here – they certainly deserve a chance to re-charge over the summer.
Congratulations to Miss Ela Jones on gaining Level 3 Forest schools Certificate and to Miss Alaw Llywelyn on passing her NQT (Newly qualified Teacher).
You will receive your child’s report on Tuesday, July 19th and the school will finish for the summer on Wednesday, July 20th.
All the best to Year 6 in September and to all of you over the summer.
We look forward to another exciting and busy year ahead with a new Curriculum on our doorstep.
Please find attached a rationale for our new Curriculum here at Pentrecelyn (Welsh only at the moment).
With regards
Andrew Evans
Pennaeth / Headteacher
Ysgol Pentrecelyn
01978 790288