Gwybodaeth / Information

​Lansio Fferm Seren – Gobeithio eich bod chi i gyd yn gyffrous am ein lansiad llyfr ar yr 8fed o Chwefror ac yn edrych ymlaen at weld cymaint ohonoch chi yno â phosib ar y diwrnod.

Launch of Seren’s Farm – We hope that you are all excited about our book launch on the 8th February and look forward to seeing as many of you there as possible on the day.

Llau Pen – mae hi’r amser yno o’r flwyddyn pan mae’r llau pen yn ymddangos unwaith eto.  Gofynnwn yn garedig i chi edrych ar walltiau eich plant.  Mae fwy o wybodaeth yn yr atodiad yma amdanynt a hefyd y ‘Common Ailments Scheme’ a sut i gael defnydd triniaeth am ddim o fferyllfa leol.​

Head Lice – it is the season when head lice makes an appearance once more.  We ask kindly that you check your children’s hair regularly.  Attached is more information about them and also how treatments can be obtained free of charge under the common ailments scheme.

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/h/article/headliceandnits/?locale=cy&term=A

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/h/article/headliceandnits/#:~:text=Headlice%20is%20one%20of%20the,more%20information%20on%20the%20service.&text=Lice%20and%20nits%20can%20be%20removed%20by%20wet%20combing.

https://111.wales.nhs.uk/pdfs/MinorE.pdf

Dosbarth Llywelyn / Llywelyn Class

Disgyblion i ddod i’r ysgol mewn hen ddillad addas i weithgareddau yn yr ardal tu allan ar ddydd Gwener.

Pupils to come to school dressed in old clothes suitable for outdoor activities this Friday please.

Gwersi Addysg Gorfforol / PE Lessons

Mi fydd Llio’r Urdd yma dydd Gwener wythnos yma i wneud sesiynau addysg gorfforol.

Llio from the Urdd will be here on Friday this week to deliver PE sessions.

Nofio/Swimming – 

Rydym wrthi yn trefnu gwersi nofio i ddisgyblion Derbyn i Flwyddyn 6, mi fydd fwy o fanylion yn dilyn yn fuan.

We are currently finalising arrangements for swimming lessons for reception to Year 6 pupils, more details will follow shortly.

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288