Gwybodaeth – Information

Dolig Digidol – caniatâd

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym ar ffeil ar gyfer caniatâd i ymddangos mewn lluniau a fideo wrth baratoi ein clipiau Dolig digidol. Bydd y plant sydd ddim yn ymddangos yn brysur yn y broses cynhyrchu. Byddwn yn rhannu’r clipiau ar ein cyfrif Trydar, tudalen Facebook Ffrindiau Ysgol Pentrecelyn ac ar ein app/gwefan. Os hoffech adolygu eich dewisiadau caniatâd plîs cysylltwch â’r ysgol.

Digital Christmas – consent
We are using the information we already have on file regarding consent to appear in photos and videos to plan our digital productions. Children who do not appear are involved in the production etc. We will share clips on our Twitter feed, Friends of Ysgol Pentrecelyn Facebook page and on our app/website. If you would like to review your preferences please contact me at school.

 

Adnoddau Darllen

Fel y gwyddoch rydym wedi canolbwyntio llawer ar adfer sgiliau darllen yma yn yr ysgol ers dychwelyd, ond nid yw llyfrau ac adnoddau darllen wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen mor aml oherwydd y sefyllfa Cofid. Yn dilyn ambell gais am lyfrau darllen i ddod adre mi wnawn ni ail-edrych ar y drefn a dechrau gyrru llyfrau ac adnoddau darllen adref yn fwy rheolaidd yn fuan. Os nad ydych yn awyddus i lyfrau ddod ‘nôl a blaen mwy aml, gadewch i ni wybod.  Mi fydden, wrth gwrs, yn parhau i ddarllen yn rheolaidd gyda’r disgyblion yn yr ysgol.

Reading Resources

As you are aware we have been focussing on recovering reading skills here at school since returning. However, as you can understand, books and reading resources haven’t been going back and forth as often due to the on-going Covid situation. Following some requests for reading material to come home we will look again at the arrangements and begin sending reading books and resources home more regularly soon. If you do not want reading resources coming home, then please inform us of this, as we will still be continuing to develop reading skills at school.   

Cinio Dolig 

Christmas Dinner
Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio cael cinio Nadolig ar y 16g – croeso i blant Meithrin ymuno a ni ar y diwrnod arbennig yma – bydd mwy o fanylion i ddilyn.
We are hoping to have our Christmas dinner on Wednesday 16th – Meithrin pupils can join us for this special day – more details to follow.

Parti ‘Dolig

Christmas Party

Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio cael Parti ‘Dolig ar y 18fed.

We are hoping to have our Christmas Party on the 18th.

Diwrnod Siwmperi Nadolig
Christmas Jumper Day

Mae diwrnod gwisgo Siwmperi ‘Dolig ar Ragfyr 11eg eleni. Byddwn yn cefnogi’r achos ar gyfer Achub y plant.
Christmas Jumper day is on Friday, December 11th. We wil be supporting this for Save the Children.

Diolch am eich cefnogaeth/Thank you for your support

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288