Gwybodaeth / Information

Eisteddfod Maldwyn 2024 //owa.denbighshire.gov.uk/owa/[email protected]/?offline=disabled”>

Rydym yn falch iawn o’r disgyblion gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn dros yr hanner tymor.  Da iawn i Nel am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth ac i Ela am gystadlu yn y gystadleuaeth Cogurdd a choginio chwip o basta Pesto.  Diolch hefyd i Elen Lloyd Wynne am roi o’i hamser i hyfforddi’r criw Dawnsio Disgo, pob un ohonym wedi mwynhau gweld y genod yn cystadlu ar lwyfan fawr.

 

We are very proud of the pupils who took part in the Maldwyn Urdd Eisteddfod over the half term.  Well done to Nel for coming first in the photography competition and to Ela for competing in the Cogurdd competition and cooking a whip of Pesto pasta.  Thanks also to Elen Lloyd Wynne for giving up her time to train the Disco Dancing crew, everyone enjoyed seeing our girls perform so well on a big stage.

 

 

Sports Llanfair

Llongyfarchiadau i Nansi a Gwenllian ar eu rolau fel cymorthwyr i’r Frenhines, roedden nhw wir yn edrych yn hyfryd.  Diolch i’r PTFA am drefnu’r stondin ac i Gruff Merllyn, Iwan Nant Uchaf a Harri Gilfachwen am hyfforddi a rheoli’r tîm pêl-droed.

 

Congratulations to Nansi and Gwenllian on their roles as attendants to the Queen, they really looked lovely.  Thank you to the PTFA for arranging the stall and to Gruff Merllyn, Iwan Nant Uchaf and Harri Gilfachwen for coaching and managing the football team.

 

 

Dyddiadau Pwysig Hanner Tymor yma

14 Mehefin – Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd – dim ysgol na Chylch y diwrnod yma.

19 – 21 Mehefin – Blwyddyn 5 a 6 yn Llangrannog

25 Mehefin – Blwyddyn 6 Prynhawn Chwaraeon Ysgol Brynhyfryd 1:00yp – 3:20yp

26 Mehefin – Te Parti 150 Ysgol Pentrecelyn.  Cyfle arall i ein ffrindau a teuluoedd ymuno a ni am baned, sgwrs a chyfle i weld hen luniau. (plant yr ysgol yn trefnu a gweini)

2 Gorffennaf – Disgyblion Derbyn i flwyddyn 6 Ymweld a Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen

5 Gorffennaf – Diwrnod anwytho Blwyddyn 6 i Ysgol Brynhyfryd

8 Gorffenaf – Noson wybodaeth i rieni Meithrin newydd a Dosbarth Derbyn (5 tan 6)

12 Gorffennaf – pnawn Mabolgiamocs 

17 Gorffennaf – Noson ffarwelio a Blwyddyn 6 a noson ‘Mae gan Bentrecelyn dalent’ 5:30 (ar gae yr ysgol os yw’r tywydd yn ffafriol)


Important Dates for this Half Term

14 June – Teachers Training day – no school or Cylch on this day.

19 – 21 June – Years 5 and 6 Llangrannog 

25 June – Year 6 Transition Afternoon – Sport at Ysgol Brynhyfryd 1pm – 3:20pm

26 June – Ysgol Pentrecelyn’s 150th Afternoon Tea.  This is another opportunity for our families and friends to meet for a cuppa, chat and see the old photos (the pupils will be organising the event and serving our visitors)

2 July – Reception pupils to Year 6 to attend the Children’s Day at the Llangollen International Eisteddfod

5 July – Year 6 Transition Day to Brynhyfryd

8 July – Information Evening for New Nursery and existing Reception Pupils Parents (5 till 6)

12 July – Mabolgiamocs afternoon 

17 July – ‘Pentrecelyn’s got Talent’ and Year 6 leavers evening – 5:30

 

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288