Llythyr 7/10/19 Letter

Annwyl Rieni 

Gŵyl ​Gyhoeddi

Roeddwn yn hynod falch o orymdeithio gyda chriw Pentrecelyn dydd Sadwrn. Dolch i bawb am eich cefnogaeth. Llongyfarchiadau mawr i dîm Pentrecelyn am ennill wobr gyntaf am greu baner – ymdrech ysgol gyfan ond diolch arbennig i Mrs Wilson-Jones.   Byddwn yn derbyn gwobr o £250.  Braf hefyd oedd gweld y plant a’r faner ar y teledu.

Hyfforddiant Digidol

Byddwn yn adeiladu ar ffocws sgiliau  digidol ‘fory gydag hyfforddiant i’r Cyfnod Sylfaen yn y bore a CA2 yn y pnawn.

Pentre Peryglon

Bydd plant Dosbarth Derbyn i fl 6 yn ymweld â Phentre Peryglon ger Talacre dydd Gwener, Hydref 11. Bydd angen gwisgo gwisg ysgol.  Bydd Anti Eirian yn paratoi pecyn bwyd i’r plant cinio ysgol ac yn holi’r plant am y pecyn.  Plant brechdanau i ddod â’u pecyn eu hunain os gwelwch yn dda.  Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £5 tuag at gost yr ymweliad i’w dalu parent pay os gwelwch yn dda.   Mae siop fach ym Mhentre Peryglon a chaiff y plant ddod ag ychydig o arian mân os ydych yn dymuno.

Ysgol fel arfer ar y diwrnod yma i’r plant Meithrin.

Clwb Canu

Cawsom glwb canu llwyddiannus wythnos diwethaf. Cost y clwb yw £2 yr wythnos ac mi fydd y biliau’n ymddngos ar ParentPay cyn diwedd y dydd.  Byddwn yn parhau â’r un drefn eto’r wythnos yma ac o hyn allan.

Cinio Thema Cwpan Rygbi’r Byd 

Bydd Anti Eirian yn paratoi cinio arbennig dydd Mercher yma, Hydref 9 i gefnogi tîm Cymru!  Dyma’r fwydlen:

Tacos tacl rygbi, tatws lein pys blaenwyr sgrym a phwdin mwdlyd!

Caiff y plant wisgo dillad lliw coch/crys rygbi ar y diwrnod yma. 


Dyddiadau

15/10/19 – Jambori- (Dosbarth Derbyn , Bl 1 a 2)

21/10/19 – Project Ffermfeisio – neuadd yr ysgol am 3:15 – 5:00 – dewch draw i drafod eich syniadau  a derbyn cyngor – bydd paned a lluniaeth ar gael  

23/10/19 – Gwasanaeth Diolchgarwch am 1.30yp yng Nghapel Pentrecelyn

Yn gywir

Andrew Evans

Dear Parents

Proclamation Ceremony

I was very proud to be marching with Pentrecelyn families on Saturday.  Many thanks to you for your support.  Congratulations to the Pentrecelyn team for winning the first prize for their banner – a whole school effort with special thanks to Mrs Wilson-Jones.  We will be receiving £250 in prize money.  It was also lovely to see the children with the banner on television.

Digital Training

We will be building on our digital skills tomorrow with training for the Foundation Phase in the morning and for KS2 in the afternoon.

DangerPoint

Everyone (apart from Nursery children) will be going to Danger Point in Talacre this Friday, 11 February.  They should wear their school uniform.  Aunty Eirian will prepare a packed lunch for school dinners’ children.  Sandwiches children to bring their own packed lunch please.  We ask kindly for a contribution of £5 each for the trip to be paid on ParentPay please.  There is a small shop in DangerPoint and the children can bring a small amount of money with them if you wish.

School as usual for the Nursery children.

Singing Club

We had a very successful singing club last week.  The cost of the club is £2 per week and the bills will appear on ParentPay before the end of the day.  The Club will follow the same arrangements from now on.

Rugby World Cup Themed Dinner 

Aunty Eirian will be preparing a special Rugby World Cup themed dinner this Wednesday to support Wales’ team!  Here is the menu:

Bydd Anti Eirian yn paratoi cinio arbennig dydd Mercher yma, Hydref 9 i gefnogi tîm Cymru!  Dyma’r fwydlen:

Rugby tackle tacos, line out potatoes, scrum peas and muddy pudding! 

The children can wear red tops/Wales rugby shirts.


Dates

15/10/19 – Jambori- (Reception, Yr 1 and 2 )

21/10/19 – Farmvention Evening in school hall – 3:15 – 5:00 – warm welcome to you all to come to discuss your ideas and get some advice – refreshments available.

23/10/19 – Thanksgiving Service at 1.30pm in Pentrecelyn Chapel 

Your sincerely

Andrew Evans

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288