Llythyr 9/12/19 Letter

Annwyl Rieni

Ffair Nadolig – Diolch i bawb wnaeth ddod i gefnogi’r Ffair nos Wener.  Roedd hi’n noson lwyddiannus, gartrefol a braf gweld pawb yn mwynhau.  Diolch i’r GRhA am eu gwaith caled yn trefnu a llwyddwyd i godi dros £800. 

Ffair Nadolig Llysfasi – Diolch i bawb ddaeth i wrando ar y plant yn canu.

Gymnasteg yr Urdd – Roeddwn i yn hynod falch o weld Anest, Magi a Lili yn perfformio gyda safon yn enw Ysgol Pentrecelyn. Llongyfarchiadau iddynt ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn newydd yn y genedlaethol. Diolch i Elen am arwain yr unigol a deuawd, ac i’r plant am fy helpu gyda’r triawd.

Ffurflen Ganiatâd Lluniau – Yn dilyn fy ebost cyfathrebu yn ddiweddar, byddwn yn defnyddio Facebook i farchnata’r ysgol a hysbysebu digwyddiadau o hyn ymlaen. Felly, os hoffech adolygu’r ffurflen sy’n atodol a wnewch chi ei chwblhau a’i dychwelyd i’r ysgol mor fuan â phosibl os gwelwch yn dda.

Cinio Nadolig – Caiff y plant Meithrin ymuno efo ni yn ein cinio Nadolig dydd Mercher yma, Rhagfyr 11.

Rudolph Run – Dydd Iau, Rhagfyr 12.  Cofiwch ddychwelyd y ffurflenni noddi.  Caiff y plant wisgo dillad ymarfer corff (tracwisg, crys chwys a.y.b).  Mae’r cyrn carw yma yn yr ysgol i’r plant wisgo ar y diwrnod.

Siwmperi Nadolig – Fel yr arfer mae’n ddiwrnod Siwmper Nadolig dydd Gwener yma.  Os hoffech gefnogi’r ymgyrch yma, mae croeso i’r plant wisgo siwmper Nadolig neu unrhyw beth Nadoligaidd am gyfraniad at elusen Achub y Plant.

ParentPay – Mae rhai dal angen talu am eitemau megis Panto, Clwb Canu, Pecyn, Cinio a Chlwb Brecwast ar ParentPay.  Gofynnwn yn garedig i chi edrych am eich cyfrif ParentPay i sicrhau eich bod wedi talu’r rhain os yn berthnasol.  Diolch yn fawr.

Gwyliau’r Nadolig – Bydd yr ysgol yn cau dydd Gwener, Rhagfyr 20 ac yn ail-agor i’r plant ar ddydd Mawrth, Ionawr 7, 2020.

Yn gywir

Andrew Evans

Dear Parents

Christmas Fair – Many thanks to all those that came to support the Fair on Friday.  It was a very successful and homely evening and great to see everyone enjoying themselves.  Many thanks to the PTA for their hard work.  Around £800 was raised.

Llysfasi Christmas Fair – Many thanks to all those that came to listen to the children singing.

Urdd Gymnastics – I was so proud of Anest, Magi and Lili performing to such standard in the name of Ysgol Pentrecelyn. Many congratulations to them and we look forward to the new year in the national finals. Thanks to Elen for leading on the individual and duet, and to the children for helping me with the trio.

Photos Consent Form – Following my recent email on communication, we will be using Facebook to promote the school and advertise events from now on.  Therefore, it you wish to review the attached form, please complete it and return it to school as soon as possible.

Christmas Dinner – The Nursery children can join us for Christmas dinner this Wednesday, 11 December.

Rudolph Run – Thursday, 12 December.  Remember to return the sponsor forms please.  The children can wear track suits/sweat shirts etc.  The reindeer antlers are in school ready for the children to wear on the day.

Christmas Jumpers – As usual we will be supporting Christmas Jumper Day this Friday.  If you would like to support the event, the children are welcome to come to school in their Christmas jumper or anything Christmassy for a small donation to the Save the Children charity.

ParentPay – Some still need to pay for items such as the Panto, Singing Clubs, Snacks, Dinner and Breakfast Club.  We ask kindly that you look at your ParentPay account to ensure that everything has been paid for.  Thank you.

Christmas Holiday – The school closes on Friday, 20 December and re-opens for the children on Tuesday, 7 January, 2020.

Yours sincerely

Andrew Evans​

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288

doc icon Consent-for-children-to-appear-in-photographs-or-in-videos-Ysgol-Pentrecelyn.docx