Talacre

Annwyl Rieni

Nodyn i’ch atgoffa am y trip i Dalacre yfory i’r ysgol i gyd (ar wahân i’r Meithrin). 

Nid oes gofyn i’r plant wisgo gwisg ysgol, ond mae’n rhaid iddynt wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y traeth.  Byddant angen gwisgo het/cap haul a rhoi eli haul cyn dod i’r ysgol yn y bore a dod â photel eli haul efo nhw hyd yn oed os yw’r tywydd yn gymylog.  Byddant hefyd angen côt law os yw’r tywydd yn wlyb.

Bydd Anti Eirian yn paratoi pecyn cinio i blant cinio ysgol sy’n mynd ar y trip ac i’r plant Meithrin sy’n mynd ar y picnic.  Plant brechdanau i ddod â’u pecyn eu hunain ar y trip os gwelwch yn dda.

Gofynnwn i bawb dalu am y trip ar ParentPay erbyn yfory a hefyd mae’n rhaid dychwelyd y ffurflen ganiatâd os gwelwch yn dda.

Yn gywir

Andrew Evans

Dear Parents

Just a note to remind everyone about our trip to Talacre tomorrow for the whole school (except Nursery).

The children don’t have to wear their school uniform, but they will need to wear appropriate clothing for the beach.  They will need to wear a sun hat/cap and to put sun cream on before coming to school in the morning and to bring a bottle of sun cream with them even if the weather is cloudy.  They will also need a rain coat if it is wet.

Aunty Eirian will prepare a packed lunch for school dinner children going on the trip and for the Nursery pupils.  Everyone else to bring their own packed lunch on the trip please.

We ask everyone to pay for the trip on ParentPay before tomorrow and the permission form must be returned to school please.

Yours sincerely

Andrew Evnas​

Andrew Evans

Pennaeth / Headteacher

Ysgol Pentrecelyn

01978 790288